Caernarfon Herald

DYDD GWENER GWERINIAET­H IWERDDON V CYMRU S4C, 7.15

-

O’R diwedd, mae’r diwrnod wedi cyrraedd i Dani ddod adref o’r ysbyty, ond mae’n sylweddoli na fydd bywyd yn hawdd i neb er y newyddion da.

Mae hi’n teimlo’n rhwystredi­g a blin wrth i’r boen a’r diffyg gallu i symud effeithio ar ei bywyd hi ac ar bawb o’i chwmpas.

Caiff Ken gynnig ‘trip’ i Fangor gan Barry i ddanfon pizza ond nid yw’r dasg yn cael ei chyflawni wedi iddo orfod danfon rhywun arall yn ei le.

Mae’n ddiwrnod anodd i Mr Lloyd eto wrth i injian ei gar wrthod tanio.

Mae Cathryn a Vince yn llawn trafferth hefyd wrth chwilio am dŷ i’w rentu. Ond nid dyna’r unig beth ar eu meddwl. Bob tro maent yn gweld Ken neu Barry, mae’r ddau yn chwys oer yn poeni am eu tynged. Rownd a Rownd: Mawrth ac Iau 7.30, S4C GêM gwbl allweddol os yw Cymru am gadw’r freuddwyd yn fyw o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia. Ymunwch â Dylan Ebenezer, cyn golwr Cymru Dai Davies a’r cyn chwaraewr ganol cae rhyngwlado­l Owain Tudur Jones i weld yr ornest yn fyw o stadiwm orlawn Aviva yn Nulyn. Gyda sylwebaeth gan Nic Parry a Malcolm Allen. Cic gyntaf, 7.45.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom