DYDD SUL HEDD WYN S4C, 8
MAE S4C yn nodi canmlwyddiant marwolaeth y bardd Hedd Wyn gydag wythnos o ddrama, cerddoriaeth a rhaglenni ffeithiol rhwng 30 Gorffennaf a 4 Awst.
Fe laddwyd Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans), o’r Ysgwrn, ger Trawsfynydd, ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele, Gwlad Belg ar 31 Gorffennaf, 1917. Rhai wythnosau’n ddiweddarach enillodd ei awdl ‘ Yr Arwr’ gystadleuaeth Cadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw.
Fe gafodd y wobr ei dyfarnu i r ôl ei farwolaeth a chael ei hadnabod byth wedyn fel y ‘Gadair Ddu’. Daeth Hedd Wyn yn symbol pwerus a pharhaol o’r milwyr Cymreig a Phrydeinig a fu farw ar feysydd y gad yn Ewrop.
Mae’r wythnos o raglenni yn dechrau gyda rhifyn pen-blwydd arbennig o’r gyfres gerddoriaeth mawl Dechrau Canu Dechrau Canmol, (Sul, 30 Gorffennaf) o bentref brodorol y bardd, Trawsfynydd. Gyda Nia Roberts yn cyflwyno, mae’n cynnwys côr yr ysgol gynradd leol, Ysgol Bro Hedd Wyn, Côr Meibion on Prysor, ffilmiau archif f pwerus a darnau o’i gerdd fawr.
Yn dilyn Dechrau Canu Dechrau Canmol, bydd S4C yn darlledu’r ffilm Cymraeg gyntaf erioed i gael ei henwebu ar gyfer Oscar. Mae’r ffilmm Hedd Wyn (Sul, 3030 Gorffennaf ), a gyfarwyddwydddwyd gan Paul Turner ac yn serennu Huw Garmon yn y brif ran, wedi cael ei chanmol am ei phortread telynegol, emosiynol o’r ffermwr a aeth i ryfel i arbed ei frawd iau rhag mynd.
Er bod 25 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r ffilm gael ei rhyddhau, mae’r profiad o actio’r brif ran yn dal yn fyw yn y cof i Huw Garmon.
Meddai, “Roedd yna deimlad ar y pryd bod yna rywbeth arbennig am y ffilm. Roedd hi’n stori mor gryf a’r tîm cynhyrchu wedi mynd i’r afael â themâu oesol am far- wolaethwolaet drasig y bardd; roeddroed naws ac ansawddan arbennig i’ri’ ffilmio o’r dechrau.d Roedd yn gymaint o fraint i fod yn rhan o’r prosiect a phortreadu ccymeriad mor eieiconig yn hanes y RhRhyfel.” DaDangoswyd y rhaglenrhaglen Cofio: Hedd Wyn (Sul, 30 Gorffennaf) am y tro cyntaf yn 1967 i gyd-fynd â 50fed mlwyddiant ei farwolaeth. Ynddi mae ei gariad a’i ffrindiau yn cofio am eu cyfeillgarwch gyda’r bardd ac yn esbonio’r anawsterau a gafodd Hedd Wyn yn ei ymdrech i ddod yn Brifardd. Bydd cyngerdd canmlwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol yn fyw o Bafiliwn yr ŵyl ar Ynys Môn, a’i chynnwys yw gwaith cerddorol gwreiddiol sydd wedi ei ysbrydoli gan fywyd Hedd Wyn. Mae Cyngerdd Hedd Wyn: A Oes Heddwch? (Gwener, 4 Awst) yn argoeli bod yn
Catrin Finch: Concerto Hedd Wyn (Llun ,31 Gorffennaf), mae cyfle arall i fwynhau perfformiad cyntaf y delynores fyd-enwog Catrin Finch o’i theyrnged gerddorol bersonol i’r bardd o’r Konzerthaus, Berlin.
Bydd rhaglen ddogfen newydd am Hedd Wyn yn cael ei chyflwyno gan ein Bardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn ar S4C yn yr hydref.
Am fanylion lawn am y rhaglenni, ewch i amserlen S4C – s4c.cymru