Caernarfon Herald

Iddon yn ôl adref erbyn yr Eisteddfod! Wicked!

-

WRTH i Eisteddfod Genedlaeth­ol Cymru ddychwelyd i Sir Fôn am y tro cyntaf ers 1999, mae actor o’r ynys yn teimlo’n ffodus o gael bod yno o gwbl.

Mae’r actor Iddon Alaw Jones, 30, wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn teithio’r byd gyda chynhyrchi­ad o’r sioe gerdd Wicked ond mae wedi llwyddo i gyrraedd adref cyn y Brifwyl.

“Mae’r amseru wedi bod yn wych,” meddai Iddon a oedd yn 12 y tro diwethaf i’r Eisteddfod fod ar Ynys Môn. “Mi es i i’r ysgol ym Modedern ac mae’r afon Alaw yn mynd trwy ardd gefn tŷ fy rhieni felly mae hi mor braf bod rhywbeth mor fawr a gwladgarol yn cael ei chynnal yng ngogledd yr ynys ac ar fy stepen drws.”

Rhwng Sadwrn 5 Awst a Sadwrn 12 Awst, bydd S4C yn darlledu’n fyw o Eisteddfod Genedlaeth­ol Ynys Môn bob bore ac yn parhau drwy’r dydd gyda sylw llawn i brif seremonïau’r dydd; boed yn gadair, yn goron, yn fedal neu’n dlws. Gyda’r nos, bydd cyfle i fwrw golwg yn ôl dros ddigwyddia­dau’r dydd mewn rhaglenni uchafbwyn- tiau.

Ond dyw bod adref ddim yn golygu bod Iddon yn cymryd yr amser i orffwys gan y bydd yn cyflwyno Cyngerdd Gwyn Hughes Jones ar y nos Sadwrn a fydd yn cael ei ddarlledu ar S4C yn hwyrach yn y flwyddyn. Mae hefyd wedi bod yn ffilmio cyfres o eitemau arbennig ar Chwedlau Ynys Môn a fydd yn cael eu darlledu yn ystod rhaglenni’r wythnos.

“Fel rhywun o’r ynys, mae hi wedi bod yn fraint cyflwyno chwedlau’r ardal i bobl o bob cwr o Gymru,” esbonia Iddon a ddechreuod­d ei yrfa fel actor yn blentyn yn chwarae rhan Osian Powell yn Rownd a Rownd.

Bydd Iddon hefyd yn y stiwdio i roi ei farn ar gystadleuw­yr Gwobr Richard Burton ar y nos Fercher ac mi fydd yn beirniadu’r gystadleua­eth Sioe Gerdd dros 19 oed ar yr un noson.

Yn ogystal â’r rhaglenni dyddiol ac uchafbwynt­iau gyda’r nos, bydd Heno ar y maes yn darlledu’n fyw nos Lun, Mawrth ac Iau am 7.00 a chriw Newyddion 9 BBC Cymru yn dod â’r straeon diweddara’ o’r Eisteddfod.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom