Caernarfon Herald

Dehongliad cyffrous o chwedl Gelert y ci

-

HI ydi chwedl enwocaf Cymru am ffrind gorau Dyn – a rwan cawn fwynhau stori Gelert y ci mewn ffilm fer, afaelgar sy’n ein denu yn ôl i’r cyfnod canoloesol a ysbrydolod­d y stori drist.

Mae’r ffilm 15 munud Beddgelert yn ddehonglia­d newydd a realistig o’r stori enwog am hownd ffyddlon Tywysog Llywelyn Fawr sy’n aberthu ei fywyd i achub mab ei feistr.

Bydd y ffilm Beddgelert, a gafodd ei hysgrifenn­u a’i chyfarwydd­o gan y cyfarwyddw­r ffilm adnabyddus, Medeni Griffiths, yn cael ei darlledu ar S4C nos Fercher, 1 Tachwedd, fel rhan o dymor Chwedlau S4C.

Wedi’i saethu ar leoliad yn ardal Dolwyddela­n, Eryri, prif gymeriadau’r ffilm yw Tywysog Llywelyn Fawr (a bortreadir gan Andrew Howard) a’i ddiweddar wraig Siwan (Catherine Ayers).

Rydym yn clywed iaith sydd wedi cael ei hysbrydoli gan yr iaith a fyddai wedi cael ei siarad ar adeg teyrnasiad Tywysog Cymru yn y 12fed a’r 13eg ganrif. Darperir isdeitlau ar y sgrin mewn Cymraeg modern.

Mae Medeni Griffiths, yr awdur/ cyfarwyddw­r Cymreig sy’n byw ac yn gweithio yn Los Angeles, ac yn adnabyddus am ei harddull ddychmygus a gafaelgar mewn ffilmiau fel ‘Summit’, yn cyflwyno themâu newydd i ychwanegu dyfnder a lliw i’r stori adnabyddus.

Meddai Medeni, “Dw i wedi mopio hefo stori Beddgelert ers yr oeddwn i’n blentyn, ac er bod llawer o bobl yn meddwl ei bod hi’n drasiedi, roeddwn i eisiau creu ffilm a oedd yn cynnig mymryn o obaith ar y diwedd i’r cymeriad hwn a’i fab; neges yn dweud bod ganddyn nhw ddyfodol gyda’i gilydd. Mae’n stori drist, ond rwy’n gobeithio y bydd pobl hefyd yn profi’r ochr hudol iddi ac yn cael ei hysbrydoli ganddi.”

Yn y ffilm mae’r gwylwyr yn cwrdd â Llywelyn Fawr, sy’n galaru ar ôl colli ei wraig, Siwan. Mae’n chwilio am loches dawel yn ei gastell yn Nolwyddela­n, yng nghwmni ei fab bach a’i gi dibynadwy, Gelert. Ond er gwaethaf cwmni Gelert, mae Llywelyn yn cael ei ddrysu gan ei alar, ac mae’n methu â synhwyro’r perygl sy’n bygwth ei deulu. Beddgelert: S4C, nos Fercher 1 Tachwedd, 7.35pm

 ??  ?? Andrew Howard sy’n chwarae rhan Llywelyn Fawr
Andrew Howard sy’n chwarae rhan Llywelyn Fawr

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom