Caernarfon Herald

PENMORFA

-

CYLCH TRAFOD YR ALLTWEN: Yn y Neuadd Goffa am 7.30yh. Pris Rhaglen y Tymor yw £20 - 10 noson ddifyr am £2 y tro. Tachwedd 15, Y Cymry a’r Mynyddoedd, Mr Eryl Owain Penmachno. BRIDGE CLUB: Tuesdays at the Village Hall 7pm. Visitors and new members welcome. Contact Dewi 01766 515949. MERCHED Y WAWR DEUDRAETH: Yn y cyfarfod mis Hydref, aeth Catherine Jones, y llywydd, ati i drafod trefniadau’r cyfarfodyd­d nesa. Haf Llywelyn, y bardd a’r awdures oedd y gwestai y tro yma. Ganwyd a magwyd Haf yng Nghwm Nantcol gan dderbyn ei haddysg yn Ysgol Gynradd Llanbedr ag Ysgol Ardudwy. Yn y flwyddyn 2013 enillodd gwobr y Cyngor Llyfrau Tir na n-Og am ei llyfr `Diffodd y Ser’ yn dweud hanes Hedd Wyn o Drawsfynyd­d. Mae’r gangen yn ddiolchgar i Lenyddiaet­h Cymru am noddi’r noson. Mis nesa mi fydd noson hollol wahanol sef- `Noson blasu Cynnyrch Blasus Aerona’. Cyfle efallai i brynu anrheg Nadolig gwahanol. Nos Lun Tachwedd 27 am 7yh yn y Neuadd Goffa.

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom