Caernarfon Herald

BETHEL

-

CAPEL BETHEL (CAPEL SARON): Rhagfyr 3 am 10yb Parch.Gwynfor Williams, Cymun CLWB BOWLIO MAT BYR: The Club meet at the Memorial Hall every Wednesday between 1pm and 3pm with a break for refreshmen­ts. Coaching and equipment provided. Ring 01248 670018 for more info. CYSEGR: Rhagfyr 3, 10yb: Y Parch Eifion Williams, Llanfairfe­chan, ac Ysgol Sul. CLWB BRO BETHEL: Prynhawn Mawrth nesaf (Rhagfyr 5) bydd y bws yn cychwyn o Penrhos am hanner dydd i gludo’r aelodau i’w cinio Nadolig. CYMDEITHAS LENYDDOL: Agorwyd gweithgare­ddau’r Gymdeithas eleni yng nghwmni Ann Pierce Jones, Hendre Cennin. Croesawyd pawb gan Lywydd y noson Gwyneth Jones, a chafwyd sgwrs gan Ann yn olrhain ei hanes ar sut y daeth i ymddiddori mewn cerddoriae­th. Roedd yr Ysgol Sul wedi bod yn ddylanwad mawr arni pan yn blentyn. Yn dilyn magu pedwar o blant braf oedd iddi basio ymlaen ei harbeniged­d ym myd cerdd dant a chanu, ac erbyn hyn mae’r pedwar yn ymddiddori yn y grefft. Talwyd gair o ddiolch gan Anne Elis. Noson Nadoligaid­d fydd y tro nesaf ar Rhagfyr 12 am 7yh gyda’r aelodau yn cymryd rhan a bydd lluniaeth ysgafn ar ddiwedd y noson.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom