CLYNNOG FAWR
COMMUNITY WEBSITE: The Community Council intends to establish a community website which will include details of the work of the Community Council but will also have space for other information such as local history, forthcoming events, etc. Anyone with ideas regarding the site are welcome to contact the Clerk (01286 660141). EBENESER: Sul, Rhagfyr 3, 10yb. Oedfa yr Ofalaeth yng Nghapel Glanrhyd dan ofal y Gweinidog – Y Parch Gwenda Richards. SEFYDLIAD Y MERCHED: Cynhaliwyd cyfarfod o’r Sefydliad yn y Neuadd Bentref, nos Iau, Tachwedd 2, gyda’r Llywydd, Janet Lewis, yn y Gadair ac estynodd groeso i bawb oedd yn bresennol. Trafodwyd cynnwys y Llythyr Misol a materion eraill a godwyd ar y noson. Gwestai te a rhoddwr y raffl oedd Miriam a’r ennillydd oedd Mairwen. Yn eu cyfarfod ar Nos Iau, Tachwedd 23, roedd hwn yn Gyfarfod Blynyddol, croesawyd Margaret Lloyd Jones, VCO ac aeth ymlaen gyda’r gwaith o ethol Swyddogion ar gyfer y flwyddyn 2018 fel a ganlyn: Llywydd – Janet Lewis; Is-Lywydd – Gwyneth Woodall; Ysgrifennydd – Grace Williams; Trysorydd – Margaret Evans; Is-Drysorydd – Menna P. Jones; Swyddog y Wasg – Doris Lloyd Roberts; Trefnydd Teithiau – Gwyneth Woodall; Pwyllgor – Gweddill o’r Aelodau. Cafwyd adroddiad o’r gweithgareddau yn ystod y flwyddyn gan yr Ysgrifennydd a’r Fantolen Ariannol gan y Trysorydd a derbyniwyd rhain yn gywir. Diolchodd Margaret Lloyd Jones i bawb am wneud ei gwaith yn rhwydd a diolchodd y Llywydd iddi hithau am ei gwaith yn ystod y noson. Gwestai te a rhoddwyr y raffl oedd Janet a Grace a’r enillydd oedd Mairwen. Bydd Cinio Nadolig y Sefydliad ar 7 Rhagfyr yng Nghlwb Golff Caernarfon. Cynhelir Gwasanaeth Carolau Grŵp Llyn ar brynhawn Sul, 10 Rhagfyr am 2.30yp yn Eglwys Llannor. Bydd y cyfarfod nesaf, Nos Iau, 18 Ionawr, 2018. CANOLFAN HANES UWCHGWYRFAI: Bu cyfarfod nos Wener yn un arbennig a chafodd Wyn Thomas gymeradwyaeth fyddarol am ei ddarlith wych ar Wragedd ym myd cerddoriaeth Cymru. Nos Fawrth cyfarfu Cyfeillion Eban i drafod Cerddi Eryri a olygwyd gan Carneddog. Bydd y cyfarfod nesaf ar achlysur Cofio Llywelyn nos Wener, 8 Rhagfyr pan draddodir darlith gan Neil Johnstone ar Archaeoleg Llysoedd Llywelyn yng Ngwynedd.