Y GROESLON
GROESLON SHORT MAT BOWLING CLUB: meet in Groeslon Village Hall every Thursday, at 2pm and at 7pm, both sessions are of 2 hours duration, with a break for refreshments. New members welcome, equipment provided, no previous experience necessary. WELSH LANGUAGE: The Groeslon village hall management committee is considering arranging weekly informal sessions for learners to practice and develop their Welsh language skills in a relaxed and friendly environment at Groeslon village hall. Provision of these sessions will commence should there be sufficient interest. Anyone wishing to participate should contact David on 01286 831318 MERCHED Y WAWR: Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y gangen nos Lun, Ebrill 9 gyda Delyth, y llywydd, yn y gadair. Trafodwyd materion y mudiad yn genedlaethol a gwnaed trefniadau ar gyfer nifer o ddigwyddiadau lleol. Soniodd Dosi am y trefniadau terfynol ar gyfer taith flynyddol y gangen, ddydd Mawrth, Mai’r 15fed i’r Ysgwrn. Diolchodd y Llywydd ar ran y gangen i Gyngor Cymuned Llandwrog am eu cyfraniad i goffrau’r gangen a threfnwyd i gydweithredu â Phwyllgor y Neuadd ar eu cynllun i gynnal sesiynau sgwrsio gyda dysgwyr. Yna cynhaliwyd y cyfarfod blynyddol. Etholwyd swyddogion ar gyfer y flwyddyn nesaf a derbyniwyd syniadau ar gyfer y rhaglen. Mae’n argoeli’n dda iawn am flwyddyn arall o gyfarfodydd diddorol.