Perfformiad telynores yn swyno preswylwyr
SWYNODD un o delynorion gorau’r byd drigolion cartref gofal gyda pherfformiad arbennig.
Valeria Voshchennikova o Rwsia oedd un o sêr Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru yng Nghaernarfon yn ddiweddar, a chymerodd amser allan o’r ŵyl er mwyn perfformio i breswylwyr cartref Bryn Seiont Newydd yng Nghaernarfon.
Mae Valeria yn unawdydd gyda Cherddorfa Theatr y Bolshoi a hi yw prif delynores Cerddorfa Symffoni Moscow.
Roedd sefydliad gofal Parc Pendine, sy’n rhoi bri mawr ar y celfyddydau, ymhlith noddwyr yr ŵyl ac fel rhan o’r trefniant, cynhaliodd Valeria gyngerdd yn eu canolfan ragoriaeth ar gyfer gofal dementia ar gyrion y dref.
Dywedodd cerddor preswyl Bryn Seiont Newydd, Nia Davies Williams, fod preswylwyr a staff yn ffodus iawn i gael y cyfle i wrando ar berfformiad personol gan delynores mor ddawnus.
Meddai: “Enillodd Valeria deitl Prif Gerddor Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru yn 2014 ac yn sgil hynny fe’i gwahoddwyd i ddychwelyd i Gymru i berfformio yng nghyngerdd agoriadol yr ŵyl eleni.
“Roedd yn anrhydedd i ni gael Valeria yma, a chan fod Parc Pendine yn un o noddwyr yr ŵyl roeddem wrth ein boddau, ei bod hi wedi cytuno i roi cyngerdd byr i’r preswylwyr. Mae’r delyn yn offeryn therapiwtig iawn.
“Mae pobl sy’n byw gyda dementia yn dueddol o fyw yn yr eiliad a’r funud yma, ac roedd hi’n amlwg bod llawer o breswylwyr wedi cael eu hudo gan berfformiad syfrdanol Valeria.
“Rydym mor lwcus, yn staff a phreswylwyr, i allu mwynhau perfformiadau gan gerddorion o’r radd flaenaf. Oherwydd nid yw byw gyda dementia yn golygu na allwch fwynhau a dathlu cerddoriaeth.”
Ychwanegodd: “Roeddwn yn credu bod rhaglen Valeria yn rhagorol. Cawsom ganeuon am ehedydd ac eos a lliw a chyffro dawnswyr Sbaenaidd. Roedd y cyfuniad o gerddoriaeth yn ardderchog ac roedd perfformiad Valeria yn gyfareddol.”
Yn ôl Valeria, roedd dod yn ôl i Gymru yn “brofiad anhygoel”.
Dywedodd: “Mae pobl yng Nghymru yn caru’r delyn a cherddoriaeth yn gyffredinol. Mae cerddoriaeth yn uno pawb, beth bynnag y mae ein llywodraethau a’n gwleidyddion yn ei ddweud neu’n ei wneud. Rwyf wedi mwynhau chwarae ar gyfer ystafell lawn o breswylwyr lawn cymaint ag yr wyf yn mwynhau chwarae o flaen cynulleidfa fawr mewn neuadd gyngerdd.
“Rwyf ond eisiau rhannu a mwynhau cerddoriaeth. Mi wnes i chwarae Yr Eos gan Franz Liszt a’r Ehedydd gan Mikhail Glinka y cyfansoddwr o Rwsia a darnau amrywiol eraill. Roeddwn i’n gallu gweld bod y preswylwyr yn mwynhau’r gerddoriaeth yn arw ac yn canolbwyntio’n llwyr ar y darnau roeddwn yn eu perfformio.
Ychwanegodd Valeria, sy’n ymarfer y delyn am hyd at bedair awr y dydd: “Roeddwn wrth fy modd i gael dychwelyd i Gymru fel Prif Gerddor Gŵyl Gerdd Ryngwladol Cymru 2014. Rwyf wedi bod yn ffodus i gael perfformio y tu allan i Rwsia ar sawl achlysur bellach gan gynnwys cystadleuaeth telyn yn Unol Daleithiau’r America.
“Rwyf hefyd wedi perfformio yn y Swistir ac yng Ngŵyl Delynau Camac yn Ffrainc. Yn wir, cefais fenthyg telyn Camac ar gyfer fy mherfformiadau yng Nghymru gan y byddai dod â’m telyn fy hun o Moscow wedi bod yn gostus iawn.”
Sefydlodd perchennog Parc Pendine, Mario Kreft MBE a’i wraig, Gill, Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine, i gefnogi mudiadau celfyddydol a chymunedol.
Dywedodd Mario: “Roeddem yn falch o gael y cyfle i gefnogi Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru, gan mai cartref yr ŵyl yw Galeri sydd ar garreg ein drws yma yn Bryn Seiont Newydd.
“Mae cerddoriaeth yn gwella a chyfoethogi bywydau pobl, a chyda hynny mewn golwg mae Parc Pendine yn darparu cefnogaeth i dros 20 o sefydliadau diwylliannol a chymunedol.
“Y llinyn arian sy’n rhedeg trwy bopeth a wnawn yw ein rhaglen gyfoethogi, sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy’n rhoi lle canolog i’r celfyddydau yn ein ffordd o wella ansawdd bywyd ein preswylwyr a hefyd y staff sy’n gofalu amdanynt.
“Mae’r celfyddydau wedi’u hymgorffori yn ein holl raglenni hyfforddi staff er mwyn sicrhau bod cyfoethogi’n rhan o fywyd bob dydd i bawb yma.”
Teithiodd Valeria i ogledd Cymru gyda’i mam, Alexandria, a ddywedodd eu bod wedi cael croeso mawr.
Dywedodd Alexandria, trwy ei merch: “Mae pawb yng Nghymru wedi bod mor gyfeillgar a chroesawgar. Bu’n brofiad gwych. Mi wnes i fwynhau gweld sut y gwnaeth preswylwyr y cartref gofal fwynhau perfformiad Valeria a chael cymaint o fudd ohono.
“Rwy’n falch iawn o Valeria a’r hyn y mae hi wedi’i gyflawni. Rwyf hefyd wedi mwynhau ymweld â Chymru eto lle mae’r delyn yn offeryn sydd yn agos at galonnau pobl.”