Caernarfon Herald

Teulu’n troi arferiad drwg yn gyfle busnes

- Y Tŷ ARIAN Nos Iau 3 Mai 8.00, S4C

Y TEULU Jenkins o Aberystwyt­h sy’n cael eu tro yn Y Tŷ Arian ar S4C nos Iau yma. Maen nhw’n ceisio cynilo er mwyn ailwampio’u cartref – gan obeithio y bydd rhywfaint o arian dros ben ar gyfer gwyliau bach.

Mae Nia a Tudur Jenkins yn rhieni prysur i dri o blant, sy’n 7, 5 a 10 mis oed. Maen nhw eisiau dysgu am ffyrdd rhatach o ddiddanu eu plant, ond hefyd sut i arbed arian bob dydd.

Am eu bod nhw’n brysur yn teithio ar gyfer eu gwaith yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, maen nhw’n aml yn galw heibio’r siop am ginio, gan ddewis y cynigion arbennig sydd yn costio tua £5 y dydd. Dyma un arferiad gwastraffu­s fydd yn dod i ben gyda chyngor cyflwynwyr Y Tŷ Arian Leah Hughes a Dot Davies.

Tra bod arferion gwario’r teulu wedi gwella ers bod ar y rhaglen, mae gan y teulu reswm arall i gofio’u cyfnod yn Y Tŷ Arian.

Mae Nia yn hoff o chwilota am fargeinion mewn siopau elusennol – yn galw heibio yn aml i brynu dodrefn a nwyddau i’r tŷ, er nad oes wastad eu hangen arnyn nhw!

Ers gadael Y Tŷ Arian, mae Nia wedi gallu troi’r hobi yma yn fusnes. Bellach mae hi wedi sefydlu ‘Lwli Mabi’, busnes bach ble mae hi’n prynu hen ddodrefn ac yna’n eu haddurno er mwyn eu gwerthu.

Dywedodd Nia, “Gan ein bod ni’n gwneud y tŷ lan, oedd ‘da fi ‘habit’ o chwilio am ddodrefn. O’n i’n prynu stwff er bod dim lle gyda fi ar eu cyfer nhw, ac roedd trugaredda­u yn dechrau mowntio lan; pethe rili neis! Dechreuais i eu paentio a’u haddurno nhw ac ers gwneud y rhaglen, fi wedi dechrau gwerthu’r dodrefn.

“Mae Y Tŷ Arian wedi fy helpu i ddechrau busnes. Fi ffaelu cadw lan gyda’r gwaith nawr! Mae’r busnes bach wedi mynd o nerth i nerth, ac mae e wedi bod yn eitha’ sioc fod beth o’n i’n ei wneud yn ddigon da i’w gwerthu. Mae bod ar y rhaglen wedi rhoi’r hyder i fi fynd amdani!”

 ??  ?? ■ Dot Davies, Leah Hughes
■ Dot Davies, Leah Hughes

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom