Caernarfon Herald

Gwers gan ‘Gareth Bale’ y Byd Pizza

-

MAE’R diwrnod mawr ar y gorwel. Ar ôl teithio trwy Ewrop, mae hi’n bryd i Ieuan a Jez anelu am Parma i gynrychiol­i Cymru ym mhencampwr­iaeth pizza fwyaf y byd - y Campionato Mondiale della Pizza. Tybed beth fydd ffawd y ddau gyfaill ymhlith rhai o gogyddion pizza - y pizzaiolos - enwocaf y byd?

Ym mhennod olaf Bois y Pizza nos Wener, 13 Gorffennaf, cawn weld Ieuan a Jez yn trio’u gorau glas i blesio’r beirniaid, gan obeithio cael eu coroni’n bencampwyr pizza Neapolitan y byd.

Cyn cyrraedd pen y daith yn Parma, Yr Eidal, mae’r ddau yn awyddus i ymweld â chartref ysbrydol y pizza Neapolitan – Napoli. Yno, bydd Ieuan a Jez yn cael gwersi gan rai o feistri byd y pizza gan gynnwys un o’r gorau, Gino Sorbillo.

Mae Gino yn berchen ar un o dai bwyta pizza enwocaf Napoli ac yn wyneb cyfarwydd ar y teledu yn Yr Eidal. Ond nid Gino yn unig fydd yn rhoi cyngor i Ieuan a Jez. Tridiau cyn cystadlu, bydd y ddau yn cael gwers gan neb llai na brenin y byd pizza, Enzo Coccia. Dyma’r gŵr sydd wedi ysgrifennu’r rheolau ar gyfer categori’r pizza Neapolitan yn y Campionato Mondiale della Pizza.

“Mae fel cael kickabout efo Gareth Bale yn y parc,” meddai Jez, wrth ddisgrifio mawredd cael gwers creu pizza gan Enzo. Bydd angen i’r ddau Gymro weithio’n galed i osgoi cael cerdyn cosb gan yr Eidalwr.

Bydd Enzo yn cynnig cyngor pwysig ynglŷn â sut i fynd ati i greu’r pizza Neapolitan perffaith, a hynny mewn modd digon di-flewyn-ar-dafod. A fydd dysgu gan y dyn pizza profiadol yn gwneud mwy o ddrwg nag o werth i hyder Ieuan a Jez cyn mentro i’r gystadleua­eth?

Dim ond un cyfle sydd gan y ddau i weini’r pizza perffaith yn y Campionato Mondiale della Pizza, ac mae’n rhaid i bopeth fod yn berffaith. A fydd y bois pizza’n gwneud cawlach o bethau yng nghystadle­uaeth pizza mwyaf y byd, neu a fydd y ddau’n dychwelyd i Gymru’n bencampwyr? Mae’r ffwrn wedi’i thanio a’r tymheredd yn codi. Dyma gyfle i Ieuan a Jez gipio’r teitl a dod yn Bencampwyr Pizza’r Byd. Bois y Pizza Nos Wener 13 Gorffennaf 8.25, S4C Isdeitlau Saesneg

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom