LLANAELHAEARN
at Deiniolen, every Friday 10.45am-12.15pm. Situated at Library car park, High Street, Deiniolen. DEINIOLEN LIBRARY: Click and Collect Service.Mon 9-10am 2-3pm. Tue 9-10.30am 2-3pm. Wed 9-10.30am 2-3pm. Thu 9-10.30am 2-3pm. Fri No Service. MAIR THOMAS: Bore Mercher diwethaf (Medi 12) cynhaliwyd angladd Mair Thomas yn y Babell Llanaelhaearn. Bu farw yn Ysbyty Gwynedd ar Fedi 2 yng nghwmni ei theulu; roedd yn 86 mlwydd oed ac wedi bod yn yr ysbyty am bythefnos. Daeth tyrfa deilwng iawn i’w hangladd. Roedd yn wraig annwyl i’r diweddar Edgar,yn fam gariadus i Gareth, Lona a Selwyn, yn fam yng nghyfraith hoffus i Richard, yn nain balch i bump a’r un modd yn hen nain i ddwy. Fe’i ganed ym Mryn Hyfryd yn Llanaelhaearn yn ferch i William a Gwladys Williams a’i brawd oedd Ceiri. Ar ôl mynychu Ysgolion Trefor a Phwllheli bu’n gweithio yn y siop yn Nhrefor ac ar ôl magu’r plant bu’n gweithio yn Mryn Meddyg ac yn Tŷ’n LLan yn Llandwrog gyda Cliff ac Elwen. Cyfarfu â’i phriod Edgar a hannai o Tai Lan Mor Trefor mewn dawns yn yr hen Neuadd yn Llanaelhaearn a phriododd y ddau yng Nghapel y Babell.Ar ôl priodi cartrefu ar aelwyd Minallt o dan yr Hen Bost yn y pentref, symud wedyn at daid Mair ym Mryn Hyfryd, yna i Rhif Un Maes Glas ac ar oll colli Edgar symudodd Mair i Bron Hendre yn Nhrefor.Colled enfawr i’r teulu oedd colli Edgar 36 mlynedd yn ôl ag yntau yn 51 oed yn dilyn trawiad ar y galon. Ergyd drom oedd hon i Mair ac i’r tri phlentyn,roedd yr ieuengaf sef Selwyn yn 13 oed ar y pryd.Canmolir y teulu am eu dycnwch wrth geisio cario ymlaen ac i Mair am ei gwrogaeth yn magu’r plant. Perthynai i Mair nodweddion arbennig, roedd yn garedig, hoffus, annwyl, yr un fath bob tro, byth yn cwyno, yn ffrind da, yn dawel, cwrtais a boneddigaidd. Roedd yn selog yng Nghapel y Babell a byddai yn fynych iawn hefyd yn cyfeilio yn Sant Aelhaearn mewn angladdau.Chwaraeodd cerddoriaeth ran fawr yn ei bywyd ac fel un o gefndir gwerinol fe gyfoethogodd Mair gymaint o blant yng nghwrs y blynyddoedd yn y maes hwn o fewn yr ardal. Ei gwasanaeth mawr oedd dysgu plant i chwarae piano ac ar un cyfnod roedd ganddi 23 o ddisgyblion yn cael gwersi ganddi.Roedd hyn yn gyfraniad arbennig ganddi, a hynny heb ffws na ffwdan, dim ond croeso diymhongar ar ei haelwyd a gwersi gwerth eu cael. Darllenwyd yn yr angladd atgofion hynod werthfawrogol gan rai o’i disgyblion. Treuliodd Mair gyfnod hapus o 24 mlynedd hyd y diwedd ar aelwyd ei merch Lona,ei phriod Richard a Tomos y mab yn 40,Y Wern, Y Felinheli gan fwynhau y cyfan. Diolchir iddynt am fod mor eithriadol o dda gyda hi ac i drigolion y Felinheli am eu cyfeillgarwch a’u cwmniaeth hoffus tuag ati.Treuliodd dri mis olaf ei bywyd yng nghartref Preswyl Rhos ym Malltraeth, Môn lle cafodd ofal tyner.Y Canon Idris Thomas, Deiniolen oedd yn gwasanaethu yn y Babell ac ym mynwent Llanaelhaearn a’r organyddes oedd Marian Roberts. Derbyniwyd rhoddion er cof tuag at Gartref Preswyl Rhos a’r Ymgymerwr oedd Ifan Hughes a Nia,Ceiri Garage yn y pentref.