DYDD SUL DRYCH: BYW HEB IRFON, S4C, 9.00
AR ôl wythnosau o glyweliadau emosiynol iawn yn ystod y rhaglen gyntaf, bydd hyd yn oed mwy o gyffro i’r perfformwyr a’r mentoriaid yr wythnos hon yng nghyfres Chwilio am Seren Junior Eurovision ar S4C.
Eleni bydd Cymru’n sefyll ar ei thraed ei hun am y tro cyntaf erioed yng nghystadleuaeth y Junior Eurovision Song Contest ac mae pobl ifanc o bob rhan o Gymru wedi cymryd rhan yn y clyweliadau i drio am y cyfle i gynrychioli’r genedl.
Yn y bennod gyntaf yr wythnos diwethaf, cawsom wledd o gerddoriaeth gan rai o bobl ifanc fwyaf talentog y wlad ac yng ngeiriau un o’r mentoriaid, Connie Fisher, “Rydym ni’n edrych am gyfuniad o ‘rough diamond’ a thalent eisteddfodol mewn un.”
Wrth i’r gyfres newydd, Chwilio am Seren Junior Eurovision barhau bob nos Fawrth ar S4C, cawn gyfle i glywed mwy o leisiau anferth yn dod allan o gegau unigolion bychain iawn wrth i’r perfformwyr fynd am y gorau.
Un person neu grŵp fydd yn dod i’r brig yn ystod y ffeinal fyw yn Llandudno ar 9 Hydref gan ennill y fraint i gynrychioli Cymru ar lwyfan Junior Eurovision ym Minsk, Belarws ym mis Tachwedd. Ond sut mae dewis a dethol un perfformiad o blith y dalent?
Yn ystod y rhaglen nesaf, nos Fawrth 25 Medi, un o heriau mwyaf y mentoriaid bydd dewis yr ugain gorau sydd â’r potensial i gael eu mentora mewn dosbarth meistr.
Y meistri yn arwain y dosbarth bydd yr actores, cantores a chyflwynwraig adnabyddus, Elin Llwyd a’r ddawnswraig o fri, Elan Isaac. Her y perfformwyr fydd cyd-ganu a dawnsio mewn un ‘siwper’ grŵp gyda’i gilydd o flaen eu teuluoedd a’u ffrindiau.
Sut bydd y perfformwyr yn ymdopi â’r fath her? Bydd rhai yn serennu ac eraill yn suddo wrth drio cuddio dwy droed chwith a chanu’n uchel yr un pryd.
“Dyw’r mentoriaid ddim yn methu pry,” meddai Trystan Ellis-Morris, sy’n ein tywys ni o wythnos i wythnos ar ein taith yn ystod y gyfres.
Penllanw’r gyfres ar nos Fawrth, 9 Hydref bydd y ffeinal fyw gyda’r gwylwyr yn dewis eu ffefryn i gynrychioli Cymru ym Minsk. Ond cyn hynny, rhaid i Stifyn Parri, Connie Fisher a Tara Bethan ddewis pedwar cystadleuydd yr un i fentora ac yna paratoi’r 12 i berfformio o flaen cynulleidfa fyw yn y Quadrant, Abertawe.
Pwy all fynd yr holl ffordd i Felarws i ganu o flaen cynulleidfa o filiynau? Yn y pen draw, chi’r gwylwyr fydd yn gorfod penderfynu. ROEDD Irfon Williams o Fangor yn ŵr, tad ac ymgyrchydd blaenllaw dros hawliau cleifion sy’n dioddef o ganser. Pan fu farw’r llynedd yn 47 oed, roedd ei wraig Becky wrth ei ochr, ac ers hynny mae hi’n benderfynol o gofio Irfon drwy fyw bywyd llawn gyda’i theulu.