Caernarfon Herald

Tomen o drysorau eto i’w darganfod ar daith dau arbenigwr

-

MAE mwy fyth o drysorau i’w darganfod ym mhennod nesaf y gyfres newydd Trysorau’r Teulu wrth i’r ddau arbenigwr, John ac Yvonne, barhau â’u taith ledled Cymru nos Iau ar S4C.

Yr wythnos hon, mae’r ddau ar y ffordd i chwilota dyfnderoed­d atig Angharad Lloyd, sy’n byw yn Sir Gaerfyrddi­n gyda’i dau o feibion. Mae Yvonne ar bigau’r drain eisiau tyrchu drwy atig Angharad gan iddo fod yn llawn i’r ymylon gydag eitemau nad oes gan Angharad galon i’w taflu.

“Mae’n holl fywyd i yn yr atig, ma’ popeth yno. Unrhyw beth sai moyn taflu, fi’n mynd â fe lan i’r atig. ‘Na pam mae e mor llawn!” meddai Angharad.

Ond tybed a fydd John yn llwyddo i newid hen arferion Angharad ar ôl iddo ddatgloi hanes ei chasgliad anarferol o grochenwai­th Portmeirio­n, sydd wedi bod yn eistedd yn segur yn yr atig ers talwm? A fydd Angahrad eisiau gwerthu, neu a fydd ei gafael sentimenta­l ar ei chasgliad yn rhy gryf iddi adael iddo fynd?

Yna, yn hudo John ac Yvonne gyda’u trysorau lu yn eu cartref yn Llanelli bydd Matt a Siobhan.

Yvonne fydd yn tyrchu i’r gorffennol i ymchwilio i hanes cloc brynodd Matt mewn siop elusen ‘nôl ym 1997. Gyda’r cloc yn tic-tocian yn wreiddiol mewn awyren ymladd Almaenig yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae Yvonne ar dân eisiau darganfod mwy am hen hanes y trysor prin hwn.

Er mai ond prynu’r cloc ar gyfer prosiect celf ‘nôl yn nyddiau ei Lefel A wnaeth Matt, a fydd o’n ei chael hi’n hawdd ildio i’r demtasiwn o daro bargen ar ôl darganfod gwir werth y cloc hanesyddol, casgladwy hwn?

Rhoi llaw ar ailwampio y bydd John yr wythnos hon hefyd wrth iddo roi bywyd newydd i hen stôl sydd wedi eistedd yn ddigalon yng nghartref Matt a Siobhan ers peth amser. Er i’r stôl vintage G Plan weld dyddiau llawer gwell, mae John yn barod i wynebu’r her o’i thrawsnewi­d i’w harddwch gwreiddiol.

“Dwi’m yn teimlo bod unrhyw reswm i brynu rhywbeth newydd pan mae rhywbeth hen yn ‘neud y job, a dyw e ddim yn costio shwt gyment!” meddai John, sy’n hen law ar roi bywyd newydd i hen bethau.

Yn rhedeg siop vintage, Cow & Ghost Vintage gyda’i bartner Kevin, mae John wrth ei fodd yn bod yn greadigol gydag eitemau mae o’n eu darganfod.

“Dwi wedi casglu bob math o bethe dros y blynydde,” meddai John, sydd â’i gartref yn Ystradgynl­ais yn llawn o drysorau vintage. “Roedd gen i lot o bits and bobs, a dwedes i fod digon ganddon ni i wneud stondin - a dyna ddigwyddod­d!” ychwanegod­d, gan esbonio tarddiad eu cwmni.

Ar ôl profi ei hun yn dipyn o giamstar ar ôl trawsnewid sgert oedd yn perthyn i fam yr artist Elin Vaughan Crawley ym mhennod yr wythnos diwethaf o Trysorau’r Teulu, bydd John yn ein hysbrydoli gyda’i drawsnewid­iad o’r stôl G Plan yr wythnos hon.

“O! Roedd Elin mor lyfli. Ers ffilmio’r rhaglen, dwi wedi gofyn iddi wneud darn comisiwn fel anrheg i fy mam. Dwi’n dwlu ar ei gwaith hi!” Trysorau’r Teulu Nos Iau 27 Medi 8.00, S4C

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom