Caernarfon Herald

DYDD IAU GWESTY ADUNIAD, S4C, 8.00

-

Mae Sophie mewn lle annifyr wrth i Terry roi pwysau arni i wneud y peth iawn a dweud wrth Vince sut mae hi’n teimlo. Gyda Vince yn tynnu ei blastar heddiw mae hi’n tybio mai rŵan yw’r amser iawn i ddweud y gwir wrtho.

Ar ôl iddo glywed y gwir gan Sophie does gan Vince ddim dewis ond symud allan o le Terry a Glenda, ac yn anffodus, nid dyma ei unig broblem.

Mae Dani am ddarganfod be’ sydd tu ôl i broblemau Lowri a Kelvin. Pan mae Robbie yn penderfynu symud yn ôl at Lowri i dŷ Dani, mae Kelvin yn amheus am ei resymau. Wedi iddo ddarganfod y gwir mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth iddo.

Mae gan Mags gynllun ar sut i wella ei hamgylchia­dau byw, ac mae’r cynlluniau yma’n cynnwys Wyn, ond beryg fod Wyn yn ddigon cyfrwys i ddelio gyda Mags. Yn anffodus i Iolo a Mathew, maen nhw wedi cael eu dal ynghanol gêm Mags a Wyn - tybed pwy gaiff y gair olaf? Rownd a Rownd: I’R rhai sy’n cerdded trwy ddrws Gwesty Aduniad, mae un peth yn sicr: mae bywyd ar fin newid am byth. Mae pob unigolyn sy’n dod i’r gwesty hwn yng nghefn gwlad Cymru gydag un amcan penodol: i gyfarfod rhywun o’u gorffennol.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom