Caernarfon Herald

DYDD IAU NOSON LAWEN - CARYL PARRY JONES- DATHLU 60, S4C, 8.00

-

Ar ôl digwyddiad­au’r Dolig mae mwy nag un person yn chwilio am faddeuant. Mae Lowri yn dioddef yn arw, ond tra mae hi’n trio’i gorau i osgoi gweld Kay, mae problem fawr yn codi yn nes at adref.

I geisio cael y gwir am hanes perthynas y ddau, mae Kay’n ypsetio Robbie, sy’n gwneud i Lowri gyrraedd pen ei thennyn.

Wrth i Jac bledio ar Dani i’w weld, mae hi’n gwegian gyda holl gelwyddau pawb.

Gyda Sian a John yn dechrau meddwl am eu priodas, daw’n amlwg nad yw Sian gant y cant yn bendant ynglŷn â rhai elfennau o’r dyweddïad.

Diolch i frechdan sosej, mae Arthur yn llwyddo i gael Rhys i sbïo ar ei fotorhome, ond erbyn diwedd y dydd, bydd digwyddiad peryg yn codi ei fil hyd yn oed yn fwy. Rownd a Rownd: CYFLE arall i ddathlu pen-blwydd Caryl Parry Jones yn chwe deg heno, ac yn dathlu gyda hi ar y llwyfan enwog mae llu o artistiaid a cherddorio­n amryddawn - Eden, Gildas, Steffan Rhys Hughes, Elan, Miriam, Greta a Myfyr Isaac, Mared Williams, Pedwarawd Pres y cerddorion Cai Isfryn, Gwyn Owen, Dafydd Thomas a Dewi Garmon a Chôr Ysgol Glan Clwyd.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom