DYDD SUL 35 AWR, S4C, 9.00
Does unman yn debyg i adre’ - ac mae Nia Parry yn ymweld â chartrefi rhai o sêr enwoca Cymru i holi beth yw ystyr ‘adre’ iddyn nhw.
Yn yr ail gyfres o Adre, sy’n dechrau ar S4C ddydd Mercher, Ionawr 2, bydd Nia yn ymweld â thŷ’r actores Sharon Morgan, yr actor Arwyn Davies sy’n chwarae rhan Mark Jones yn Pobol Y Cwm a’r Arglwydd Dafydd Wigley a’i wraig y delynores Elinor Bennett.
“Mae’n gyfres biwtiffwl i weithio arni,” meddai Nia Parry. “Ym mhob rhaglen rydan ni’n ymweld â pherson adnabyddus ac yn treulio dau ddiwrnod cyfan yn eu cartref nhw.”
“Mae’r cartrefi yn adlewyrchu eu cymeriad nhw - hanes eu bywyd, beth sy’n bwysig iddyn nhw a sut maen nhw’n byw.”
Yr unig beth sy’ ddim yn newid yw’r croeso - yn y gyfres hon mae Nia yn ymweld â’r ffermwr a’r cyflwynydd poblogaidd Dai Jones, Llanilar ger Aberystwyth. “Yn nhŷ Dai Jones roedd rhaid cael brêc bob cwpl o oriau a chawsom ni ginio bîff llawn - mi oedd o ac Olwen yn hosts anhygoel!”
Yn ôl Nia mae’r broses o ffilmio Adre yn un sydd yn eithaf hamddenol. “Mae o’n broses reit relaxed. Da ni’n creu’r rhaglen ar y cyd gyda nhw.”
Oedd unrhyw syrpreisus o gwbl wrth ffilmio’r gyfres? “Wel, yn aml iawn mae eu cartrefi nhw fel eu cymeriadau nhw. Er enghraifft aethom ni i dŷ Caryl Parry Jones yn y gyfres gyntaf ac mi oedd o’n llawn bywyd a bwrlwm - yn union fel oeddwn i’n disgwyl
“Rydan ni’n ymweld a thŷ Arwyn Davies yn y gyfres newydd a do’n i erioed wedi cyfarfod Arwyn ac felly ddim yn gwybod beth i ddisgwyl. O’n i’n gwybod ei fod o’n actor ond ddim yn gwybod llawer am ei waith fel cyfansoddwr. Roedd ei dŷ yn hyfryd a chawsom gyfle i weld ei stiwdio lle mae o’n gwneud ei waith recordio.”
Roedd tŷ Sharon Morgan yng Nghaerdydd yn dipyn o sypreis. “Rwy’n ei gweld hi fel rhywun sy’n ifanc ei ffordd ond mae cymaint o hen bethau yn ei thŷ. Ro’n i’n disgwyl iddi fyw mewn lle rili modern ond roedd e fel amgueddfa.”
Mae Nia yn synnu pa mor agored yw’r gwesteion. “Maen nhw’n hollol agored. I ystyried mai dyma eu hafan nhw, maen nhw’n gadael imi fynd mewn i unrhyw ‘stafell a gofyn unrhyw gwestiwn. Pan ti’n eu gweld nhw yn eu cynefin, ti’n gweld ochr arall o’r cymeriad cyhoeddus.” CYFRES newydd sbon. Mae’r rheithgor, sydd wedi bod yn eistedd yn y llys am ymron i bythefnos mewn achos o lofruddiaeth, yn cael eu rhyddhau i’w hystafell i bwyso a mesur, ac i ddod i ddedfryd. Ond ychydig a wyddant wrth gerdded y coridor hir ar gychwyn y gyfres, y bydd un ohonynt yn gorff ymhen 35 awr. Wrth fwrw pleidlais, mae’r rheithgor yn rhanedig. Pwy fydd yn dylanwadu ar bwy? Pwy fydd â’r farn gryfaf?