DYDD SUL 35 AWR, S4C, 9.00
Wrth groesawu’r flwyddyn newydd, mae cyfle hefyd i groesawu’r ail yng nghyfres boblogaidd S4C, Cynefin, fydd yn dychwelyd i’r sgrin fach gan roi bywyd newydd i chwedlau lleol a straeon difyr cymunedau ledled Cymru.
Dros gyfnod o wyth wythnos caiff gwylwyr gipolwg fanylach ar wahanol ardaloedd a chael y cyfle i gael gwell dealltwriaeth o’r hyn sy’n eu gwneud yn gymunedau unigryw.
Gan ddechrau ar nos Sul, 6 Ionawr gydag ynys hudol Enlli o dan y chwyddwydr, cawn glywed mwy am y llu hanesion sydd ynghlwm â darn mor fach o dir – o’r Myneich i’r Môr-ladron, o’r ffermwyr i’r pysgotwyr, a’r 20,000 o ymwelwyr pluog ddaw bob blwyddyn.
Yn dilyn Ynys Enlli, y lleoliadau eraill gaiff sylw’r tim y tro hwn fydd Abergwaun, Wrecsam, Cwm Ystwyth, Llanrwst, Bro Ddyfi, Abertawe ac Abergwyngregyn.
Caiff y cyflwynydd Heledd Cynwal fwynhau cwmni cymeriadau lleol a fydd yn ei harwain trwy guddfannau cyfrin yr ardal tra bydd yr archaeolegydd Iestyn Jones yn tyrchu drwy’r hanes sydd wedi helpu i ddiffinio hunaniaeth yr ardal dan sylw.
Bydd Siôn Tomos Owen yn ymuno â’r tîm unwaith eto i roi bywyd newydd i’r chwedlau gwerin lleol sydd wedi dod yn rhan annatod o fywydau cymunedau Cymru.
Yn ôl y cyflwynydd Heledd Cynwal roedd hi’n falch iawn i fod ar grwydr eto,
“Rhaid cyfaddef, yn dilyn y gyfres gyntaf, fod gen i rhywfaint o gywilydd o ystyried cyn lleied ro’n i’n gwybod am ein cymunedau, eu hanes, y bobl oedd yn byw yno a’r traddodiadau hynod ddiddorol.
“Cefais i dipyn o agoriad llygad a’r newyddion da yw i’r gwylwyr yw bod ‘na fwy o hynny ar y ffordd - o dirwedd agored arfordir Sir Benfro i’r gogledd ddwyrain ddiwydiannol i gefn gwlad canolbarth Cymru. Beth amdani felly – beth am ymuno â ni ar y daith? Wnewch chi ddim difaru.”
Un o’r golygfeydd mwyaf anhygoel ar ynys Enlli yw’r 20,000 o adar Drycin Manaw sydd yn dychwelyd yno i nythu bob blwyddyn, un o’r golygfeydd na fydd byth yn blino Siân Stacey, warden yr ynys, “Wnes i ddechrau dod i’r ynys pan oeddwn i’n wyth mlwydd oed gyda fy nheulu ar wyliau. Roedd Dad yn hoff iawn o adar, felly roeddem ni’n dod nôl yn gyson i’w gweld nhw. Dwi’n cofio chwarae gyda’r plant arall ar yr ynys, nofio a physgota am grancod. Fel plant roedden ni jyst eisiau dod i Enlli ac rwy dal wrth fy modd yma. Mae yn anghygoel o le i fyw a gweithio.”
Ymunwch â Heledd, Iestyn a Siôn bob nos Sul am 8pm am wyth wythnos wrth iddynt fynd â ni ar daith o gwmpas ein cymunedau lleol. AIL bennod o gyfres newydd sbon gan yr awdur Fflur Dafydd. O ganlyniad i fethu â dod i ddyfarniad, mae’r rheithgor yn gorfod cwrdd am ddiwrnod arall. Ond maent mewn peryg. Tra bod Leighton, brawd y diffynnydd, Kelvin, yn rhydd, a’i gariad yn gorwedd rhwng byw a marw mewn ysbyty, mae’r barnwr wedi penderfynu bod yn rhaid i’r rheithgor aros dros nos mewn gwesty. Ond mae’r gwin yn llifo a’r problemau personol yn dod i’r wyneb…