Er gwaetha’r tywydd roedd ‘Steddfod Conwy yn llwyddiant ysgubol
WEL dyna ni am flwyddyn arall. Bellach mae’r dillad wedi eu golchi a’r mwd wedi ei glirio oddiar y car a’r garafan. Ond er gwaetha’r tywydd mi oedd Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 yn un gofiadwy am y rhesymau gorau.
Cafwyd teilyngdod ym mhob un o’r prif gystadleuthau namyn un gyda ennillydd y Goron, Guto Dafydd, a’r Gadair, Jim Parc Nest, yn cael canmoliaeth uchel iawn.
Roedd croso pobl sir Conwy yn bennaf a thrigolion Llanrwst yn benodol yn arbennig o gynnes ac rwyn falch bod yr ymdrechion wanethpwyd i ddenu pobl o’r Maes a’r meysydd gwersylla wedi bod yn llwyddiant.
Gwelais gynnwrf yn y dre sawl gwaith yn ystod yr wythnos oedd yn absennol llynedd a’r flwyddyn cynt.
Mae’n gwestiwn arall os bydd yn Wyl yn llwyddiant ariannol.
Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol bydd costau ychwanegol o ganlyniad i’r newidiadau sydd wedi’u gwneud dros ddyddiau olaf yr wyl.
Ni fydd y ffigwr terfynol yn amlwg am rai wythnosau ond bod gwaith i liniaru effaith y tywydd wedi gadael ei farc yn ariannol.
Fe gyhoeddodd yr Eisteddfod ddydd Gwener y byddai lleoliad ieuenctid Maes B yn cau deuddydd yn gynnar oherwydd y rhagolygon, gan ddweud y byddai pobl yn cael eu had-dalu.
Bu rhaid i’r trefnwyr symud meysydd parcio a threfnu mwy o fysus gwennol oherwydd cyflwr rhai o’r caeau gafodd eu defnydio ddechrau’r wythnos.
Ychwanegodd Betsan Moses bod yr Eisteddfod hefyd wedi gorfod gwario mwy ar ddiogelwch, a bod hynny wedi cyfrannu at y costau ychwanegol.
“Mi fydd ‘na effeithiau ariannol. “Mi fu rhaid i ni ohirio Maes B, ac wrth gwrs mae hynny’n golled.
“Ond diogelwch pobl sydd bwysicaf, ac ry’n ni wedi gallu gwireddu gŵyl er gwaethaf y tywydd ‘ma, a dyna sy’n bwysig.
“Mae pobl wedi cael profiadau anhygoel, ac ry’n ni wedi gallu
gwireddu’r ŵyl yn ei chyfanrwydd,” meddai.
Roedd yr Eisteddfod eisoes wedi gorfod symud safle’r maes ychydig yn bellach o Lanrwst wedi i lifogydd yn y gwanwyn achosi difrod ar y safle gwreiddiol.
Ond ni ddylid mesur llwyddiant Eisteddfod Sir Conwy yn nhermau arian yn unig.
Daw yr Eisteddfod a chwistrelliad mawr o Gymreictod i ardal ac mae Trystan Lewis, cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol eleni, yn disgwyl gweld cynnydd sylweddol yn nosbarthiadau dysgu Cymraeg fel ail iaith yr hydref hwn.
Mae’r Brifwyl hefyd yn roi hwb i’r ardaloedd Cymreig a phhwysleisiodd Llywydd yr Wyl, y cyflwynydd radio Dylan Jones, dylai bobl beidio â bod ofn siarad Cymraeg os ydyn nhw’n poeni fod eraill am feirniadu safon eu hiaith.
Yn ei araith ar lwyfan y Brifwyl dywedodd bod diffyg hyder yn gwneud i rai pobl deimlo bod eu Cymraeg yn rhy wael i gael ei glywed mewn rhaglenni radio a theledu.
“Rhywbeth sydd yn fy nhristau i yn fy ngwaith ar adegau ydi pobl sy’n deud nad ydi eu Cymraeg nhw yn ddigon da i neud cyfweliadau ar y radio neu deledu, teimlo’n ddihyder rhag ofn iddyn nhw gael eu beirniadu.
“Cyfrwng i gyfathrebu yn naturiol ydi iaith nid prawf gramadegol. Ei siarad hi sy’n bwysig.”
Ac felly mae ein golygon yn troi i’r de gyda pharatoadau yn mynd ymlaen i drefnu Eisteddfod Genedlaethol Sir Ceredigion. Y bwriad yw ei chynnal ar dir ger Tregaron.
Dywedodd yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd fod Cymru, Lloegr a Llanrwst wedi bod yn ddywediad clywyd llawer yr wythnos diwethaf.
Awgrymodd bod un arall am fro’r Eisteddfod flwydyn nesa meddai gan nodi: “Mae na Gogledd Cymru, a De Cymru ac yna mae Tregaron.
Fe ddylai’r Eisteddfod honno fod yn un ‘ddi-dâl a di-ffens’ meddia cadeirydd pwyllgor gwaith y brifwyl.
Yn ôl Elin Jones, fe ddylai’r Eisteddfod Genedlaethol wneud yr hyn a wnaed ym Mae Caerdydd y llynedd yn “rhywbeth arferol”, ac y dylai trefnwyr y brifwyl a Llywodraeth Cymru gynnal trafodaethau ynglŷn â’r mater.
“Efallai fod y pris mynediad yn rhwystr i hynny ddigwydd, ac fe fydden i wrth fy modd yn gweld yr Eisteddfod heb ffens ac yn ddi-dâl yn Nhregaron,” meddai.