Gwerthu rhaglen blant boblogaidd i Lydaw
DOES dim smic yn ty ni oddiwrth y wyresau bach pan mae rhifyn o’r gyfres boblogaidd Deian a Loli, y ddau efaill o Wynedd direidus sydd â phwerau hudol, yn cael ei ddangos ar y teledu.
Mae’r ddwy yn ffans mawr o helyntion yr efeilliad ac mae’r cwmni teledu sy’n cynhyrchu’r rhaglen yn gobeithio bydd plant mewn gwledydd eraill yn dod i fwynhau’r rhaglen hefyd.
Cyhoeddwyd yr wythnos hon fod Cwmni Da wedi llwyddo i gael y gwerthiant rhyngwladol cyntaf i’w sioe boblogaidd i blant am bâr o efeilliaid.
Mae Cwmni Da o Gaernarfon, wedi gwerthu cyfres gyntaf rhaglen arobryn Deian a Loli i bedair sianel deledu yn Llydaw ar ôl i’r fersiwn wreiddiol fod yn hynod boblogaidd ar S4C.
Prynwyd y gyfres gan TV Rennes, Tébéo, TébeSud a Brezhoweb a bydd yn cael ei darlledu y flwyddyn nesaf ar ôl cael ei throsleisio i’r Llydaweg a Gallo, ffurf ranbarthol o Ffrangeg sy’n cael ei siarad yn ardal y ffin rhwng Llydaw a Normandi, ac sydd wedi’i chanoli ar ddinas Le Mans.
Cafodd y bargeinion gyda’r sianeli yn Llydaw eu taro gan y dosbarthwr Prydeinig Videoplugger sy’n gobeithio gwerthu’r rhaglen i wledydd eraill.
Enillodd y rhaglen i blant cyn-ysgol y wobr Canmoliaeth Uchel yng ngwobrau’r Broadcast Awards 2019, ar ôl ennill y wobr am y Rhaglen Blant Orau yng Ngwobrau BAFTA Cymru 2017.
Gwobrwywyd llwyddiant ysgubol y sioe pan gomisiynodd S4C drydedd cyfres 26 pennod yn ddiweddar ar gyfer eu platfform rhaglenni plant, Cyw.
Trwy ddweud y gair hud, “Ribidirew!”, mae Deian a Loli yn gallu rhewi eu rhieni a mynd i ffwrdd ar anturiaethau gwych.
Gan fod y Deian a Loli gwreiddiol, a chwaraewyd gan Erin Gwilym a Moi Hallam, yn tyfu i fyny, penderfynwyd ail-gastio’r rhannau ar gyfer cyfres ddiweddaraf y rhaglen.
Mae’r prif rannau bellach yn cael eu chwarae gan Gwern Jones, 11 oed, o Lanrug, ger Caernarfon a Lowri Jarman, 10 oed, o Lanuwchllyn, ger y Bala.
Yn y cyfamser, cafodd yr actorion Rhian Blythe a Simon Watts, sydd hefyd yn ŵr a gwraig go iawn, eu castio fel y fam a’r tad newydd i gymryd lle’r rhieni gwreiddiol a chwaraewyd gan Sian Beca a Carwyn Jones.
Ysbrydolwyd y cynhyrchydd Angharad Elen i greu cyfres Deian a Loli gan ei phlant ei hun, sef Cain, saith oed, a Syfi, pump oed, a dywed
ei bod yn ymgynghori gyda nhw’n aml am straeon posibl i’r gyfres.
Meddai Angharad: “Mae’n newyddion gwych bod y gyfres wedi’i gwerthu i’r pedair sianel yn Llydaw ac y bydd ein cefndryd Celtaidd rŵan yn gallu mwynhau anturiaethau’r efeilliaid.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at wylio’r gyfres yn y Llydaweg a gobeithio y bydd plant Llydaw yn ei mwynhau gymaint â’n gwylwyr ifanc yng Nghymru.
“Mae’r dosbarthwr, Videoplugger, yn arbenigo mewn gwerthu rhaglenni mewn ieithoedd lleiafrifol a chredaf mai hon yw’r sioe blant gyntaf iddynt ei gwerthu.
“Mae Videoplugger hefyd wedi cael llawer o ddiddordeb gan wledydd eraill er nad oes unrhyw beth wedi’i gadarnhau hyd yma.
“Rwy’n hyderus y bydd Deian a Loli yn trosi’n dda i ieithoedd eraill - mae llawer o’r themâu yn berthnasol i bawb ac mae plant ym mhobman wrth eu boddau efo ychydig bach o ddrygioni.”
Ychwanegodd Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C: “Mae Deian a Loli wedi perfformio’n dda iawn ar Cyw, sianel cyn-ysgol S4C.
“Mae gan y sioe bopeth - straeon cryf, perfformiadau gwych ac effeithiau hudol. Mae plant wrth eu boddau â Deian a Loli ac mae hyn i gyd yn deillio o waith caled a gweledigaeth y tîm talentog a chreadigol sydd y tu ôl i’r gyfres.”
Ychwanegodd prif weithredwr Videoplugger, Emanuele Galloni: “Rydym yn falch o weld y gyfres hyfryd hon yn cychwyn ar ei thaith ar draws Ewrop, gyda’r stop cyntaf yn Llydaw. Rydym yn edrych ymlaen at ei gweld yn croesi ffiniau rhyngwladol.”