Un funud fach….
MAE heddiw’n Ddiwrnod y Cenhedloedd Unedig. Ond pam dathlu’r diwrnod hwn ar 24 Hydref? Wel .. darllenwch ymlaen! Llofnodwyd y Siarter a ffurfiodd y Cenhedloedd Unedig ar Mehefin 26, 1945, sef ymrwymiad i gadw heddwch drwy gydweithredu rhyngwladol, a daeth i rym ar Hydref 24 y flwyddyn honno. Mae’r dyddiad hwn yn cael ei nodi’n flynyddol byth ers hynny a’i fwriad yw codi ymwybyddiaeth o waith, bwriadau a llwyddiannau’r Cenhedloedd Unedig.
Sefydliad byd-eang ydyw felly, gyda 193 o wledydd yn perthyn iddo. Gall unrhyw wlad fod yn aelod os yw’n parchu heddwch ac yn barod i dderbyn goblygiadau’r Siarter a bod y gallu a’r parodrwydd ganddi i’w cyflenwi, ym marn y Cenhedloedd Unedig.
I nodi’r Diwrnod eleni, cynhelir arddangosfa arbennig iawn yng nghyntedd Pencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd - arddangosfa sy’n cynnwys casgliad o ffotograffau o ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Enw’r arddangosfa yw ‘Pobl ar grwydr’.
Wrth wynebu argyfwng ‘Pobl ar Grwydr’ yn ein byd, hawdd iawn yw defnyddio ystadegau wrth gyfeirio at sefyllfa’r ffoaduriaiad a’r ceiswyr lloches. Rhaid cofio, fodd bynnag, fod pob rhif yn cynrychioli person dynol – mam neu dad, merch neu fab, mam-gu neu dad-cu, brawd neu chwaer – rhywun tebyg i chi a fi. Dyw’r lluniau yn yr arddangosfa arbennig hon sy’n cychwyn yn Efrog Newydd heddiw, ar ddydd y Cenhedloedd Unedig, ddim ond yn gallu dal un funud fach yn amser rhai o’r miliynau hynny sydd, am resymau amrywiol, wedi dod yn ‘bobl ar grwydr’ dros y degawdau diwethaf.
Nid ystadegyn yw person. Daliwn bob person sydd ‘ar grwydr’ - yn gorfforol neu’n feddyliol - o fewn ffram ein meddyliau heddiw a rhown iddynt un funud dawel o’n hamser.