Pencampwriaeth Coetio Prydeinig 2018
ROEDD yn ddydd o lawen chwedl yn Saron, Llangeler ar Awst 25ain eleni wrth i 27 o goetwyr gorau Prydain gasglu i ymgiprys am bencampwriaeth blynyddol Prydain yn y gêm hynafol hon.
Roedd tyrfa dda wedi ymgasglu i fod yn dystion i weld y grefft ar ei gorau.
Ni siomwyd unrhyw un wrth i’r gemau fod yn agos, a’r cyfan mewn ysbryd cyfeillgar rhwng y Cymry, yr Albanwyr a’r Saeson.
Er i draddodiad chwarae coets fynd nôl i’r Gemau Olympaidd a gynhaliwyd yn Groeg dros 2000 o flynyddoedd yn ôl, mae brwdfrydedd y rhai sydd yn chwarae’r gêm heddiw yr un mor deyrngar ag erioed, er i’r nifer leihau dros y blynyddoedd diwethaf. Sefydlwyd Bwrdd Coetio Cymru dechrau’r ddeunawfed ganrif. Yn 1896 dechreuwyd chwarae gemau rhyng-genedlaethol rhwng Lloegr a Chymru yn Cheltenham, a rhwng Cymru a’r Alban yn 1931 ym Merthyr Tudfil. Ers blynyddoedd bellach cynhelir y pencampwriaeth yn flynyddol, a’r lleoliad yn cylchdroi rhwng Cymru, Lloegr a’r Alban. Mae traddodiad y gêm yn un cyfoethog iawn, ac fe ddiogelwyd y traddodiad hwnnw yn Saron wrth i’r chwaraewyr ddilyn y rheolau a sefydlwyd yr adeg honno.
O’r cychwyn cyntaf yn y bore fe gafwyd coetio o safon arbennig, gyda chywirdeb anghyffredin - a’r dyrfa wrth ei bodd yn gwylio. Wrth i’r pencampwriaeth dynnu at y terfyn, a hithau’n nosi, fe gafwyd gêm agos iawn yn y rownd derfynol rhwng Dorian Thomas, Clwb Saron a Brian Eddie, Clwb Dunnottar. Yr Albanwr a ddaeth i’r brig ac ennill y cwpan her.
Diolch i swyddogion Clwb Coets Saron am drefnu’r dig- wyddiad, ac i bwyllgor Clwb Chwarae Saron am eu cydweithrediad ac am drefnu gweithgareddau o amgylch y gêm fawr. Hefyd, diolch i’r holl noddwyr am eu cefnogaeth ymarferol, gan sicrhau fod y diwrnod yn un llwyddiannus a phleserus iawn i bawb.