Dathlu Diwylliant 2018
WRTH i’r flwyddyn 2018 dynnu at ei therfyn mae fy meddwl unwaith eto yn troi at y cyfle i Ddathlu Diwylliant Sir Gâr. Fe gofiwch i ni gynnal digwyddiad arbennig, a hynny am y tro cyntaf yn Theatr Ffwrnes Llanelli i arddangos yr holl dalentau diwylliannol sydd o fewn ein sir. Mae’r holl weithgarwch yn dangos yn glir y cyfoeth diwylliannol hwnnw, a braf yw cael dathlu hynny.
Yn fuan iawn fe fyddwn ni yn gofyn ichi gyflwyno enwau unigolion neu sefydliadau neu gymdeithasau sydd wedi creu gwaith arbennig ac wedi cael llwyddiant mewn gwahanol feysydd yn ystod 2018. Llynedd fe gyflwynwyd dros 150 o enwebiadau a oedd yn dangos cyfraniadau diwylliannol ardderchog iawn ar hyd a lled y sir.
Byddwn eto yn rhoi cyfle i enwebu mewn chwech gwahanol gategorïau, ac fe wahoddir tri ym mhob adran i dderbyn ein cymeradwyaeth a’n clod fel Cyngor Sir am yr hyn a gyflawnwyd yn ystod 2018 yn y flwyddyn newydd.
Dyma’r categorïau: Rhagoriaeth yn y Celfyddydau Gweledol a Chrefftau: Mae’r wobr hon yn cydnabod unigolyn, grwp neu sefydliad sy’n gweithio ym maes y celfyddydau gweledol, dylunio, ffotograffiaeth neu grefftau lle mae eu gwaith yn gadael argraff a fydd yn para yn ystod 2018. Rhagoriaeth yn y Celfyddydau Perfformio:
Mae’r clod hwn yn cydnabod perfformiwr neu grwp o berfformwyr neu sefydliad sydd wedi gwneud argraff arbennig yn ystod 2018. Gall hyn gynnwys theatr, dawns, iaith lafar a chomedi (ond nid yw’n gyfyngedig i
hynny). Rhagoriaeth yn y Cyfryngau Creadigol:
Cydnabod cyflawniad unigolyn, grwp neu sefydliad yn y cyfryngau creadigol yn ystod 2018. Gallai hynny gynnwys ffilm, Animeiddio, Dylunio Graffeg, Dylunio Gemau a Chelf Digidol (ond nid yw’n gyfyngedig i hynny). Rhagoriaeth Mewn Llenyddiaeth: Cydnabod unigolyn, grwp neu sefydliad rhagorol sy’n gweithio yn y maes ysgrifennu creadigol, llenyddiaeth, rhyddiaith neu farddoniaeth a wnaeth argraff arbennig yn ystod 2018. Rhagoriaeth mewn Treftadaeth: Cydnabod rhagoriaeth gan unigolyn, grwp neu sefydliad sydd wedi codi proffil neu wedi dathlu hanes a threftadaeth Sir Gaerfyrddin yn ystod 2018. Rhagoriaeth mewn
Cerddoriaeth: Mae’r wobr hon yn cydnabod cyflawniad unigolyn, grwp neu sefydliad ym maes cerddoriaeth yn ystod 2018. Gall hyn gynnwys cerddorion, cantorion, arweinwyr a chyfansoddwyr (ond nid yw’n gyfyngedig i hynny)
Yna, fe fydd gwobr arbennig i Dalent Ifanc o dan 25 oed sy’n gweithio mewn unrhyw ddisgyblaeth ac sy’n dangos gwir botensial a thalent yn gymharol ifanc. Cyfraniad Eithriadol i Ddiwylliant: Mae’r wobr hon ar gyfer rhywun sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r celfyddydau a diwylliant yn Sir Gaerfyrddin dros gyfnod hir.
Fe fydd mwy o fanylion ynglyn â sut i enwebu yn ymddangos yn fuan, ond yn y cyfamser mae croeso ichi gysylltu gyda mi ar e bost – Phughes-griffiths@ sirgar.gov.uk os am fwy o fanylion.