Carmarthen Journal

Llandysul

-

Cydymdeiml­o Cydymdeiml­wn yn ddwys â theulu Trefor Bowen ar ei farwolaeth yn ddiweddar.

Church services Llandysul, 8am communion; 11am, communion Pontsian children’s service and Santa 5pm, Llandysul evening prayer

Cytun Bydd y canu carolau ar nos Sul am 7yh yng Nghapel Penybont, Pontweli, a’r elw tuag at Llyfrau Llafar yng nghwmni Cor Rygbi Castell Newydd Emlyn.

Canu Tregroes Bydd y canu Nadolig ar nos Sadwrn am 7.30yh gyda’r arian yn mynd at Huts, Castell Newydd Emlyn. Pentrecaga­l Ar brynhawn Sul, Tachwedd 25, fe gafwyd wasanaeth Nadolig hyfryd iawn a da oed gweld cymaint yn bresennol i ddathlu ac i ddiolch. Roedd yn braf i weld pedair cenhedlaet­h o’r un teulu yn bresennol. Rabi Cafwyd bingo da iawn yn y dafarn yn Ffostrasol ar nos Wener, Tachwedd 2, a da oedd gweld cymaint wedi dod i gefnogi yr achos. Fe groesawyd pawb gan Linda Jones ac fe ddiolchodd hefyd i bawb am droi allan ac am gefnogi’r achos, gyda phob ceiniog yn mynd tuag at yr rhai sydd âg angen.

Llyfr Calvin Ar ddydd Gwener fe lanswyd llyfr arbennig gan Calfin o Lanfihange­l-ar-Arth yn son am y byd trydanol a sut i’r cyfan ddechrau gyda lluniau diddorol dros ben. Roedd yr arddangosf­a yn wych a phawb yn mwynhau gweld y lluniau dros y blynyddoed­d.

Ffair Nadolig yr ysgol Roedd Ysgol Bro Teifi yn llawn bwrlwn nos Iau wrth i rieni, ffrindiau a disgyblion ddod i ymweld â’r ffair Nadolig, gyda phawb yn cael y cyfle i weld yr anrhegion gwych ac i’w brynu.

Cymrodorio­n Cafwyd noson mor ddiddorol a phleserus ar nos Fercher yn neuadd yr eglwys yng nghwmni Caryl Lewis wrth iddi son am ei chrefft arbennig yn ysgrifennu llyfrau ynghyd â phethau eraill. Roedd yn bleser i’w chlywed, gyda phawb wedi cael noson i` w chofio. Fe fydd y cyfarfod nesaf ym mis Ionawr Cerdded The Tuesday walkers are going strong and enjoy the weekly planned walks going to Llanfihang­el-ar-Arth and to Newcastle Emlyn. They commence at the car park every Tuesday at 10.30am. Family Centre AGM This will take place today beginning with a party to celebrate the lottery success at 3.30pm and then the AGM at 4.30pm.

Bingo Pentrecwrt The bingo will be on the first Friday of every month, the next one this Friday at 8pm at the hall. Carmel Fe fydd y canu carolau ar nos Sul, Rhagfyr 9, yn y capel.

Calon Tysul, raffl mawreddog Diolch o galon i bawb sydd wedi rhoi tuag at ein raffl mawreddog. Mae dros 150 o fusnesau a phobl leol wedi rhoi gwobr/ rhodd arian tuag at ein raffl, sy’n cael ei dynnu ar Ddydd Gwener, Rhagfyr 21. Nid yw’n rhy hwyr i chi gasglu tocynnau i werthu ar ran Calon Tysul. Yn ogystal, os ni wedi rhoi tocynnau i chi eisoes, a wnewch chi sicrhau eich bod chi’n dychwelyd yr arian cyn dydd Iau, Rhagfyr 20, os gwelwch yn dda.

Santa Run On Sunday, December 16, at noon at Llandysul Paddlers Centre, our Santa Run is being held for the second time in 2018. Lots of fun and lots of Santas! Dress up as Santa and join us either by running or walking a 5km course around Llandysul to raise money for a good cause – Calon Tysul.

Ffostrasol Cofiwch ar nos Wener, Rhagfyr 21, cynhelir yr yrfa chwist Nadolig yn Neuadd Ffostrasol. Yna ar nos Sul, Rhagfyr 23, bydd y noson garolau ac adloniant yng nghwmni CFfI Troedyraur, mins peis a phwnsh am 7.30yh.

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom