Blinder Brexit
MAE cyfnod y Nadolig yn gyfle am saib o brysurdeb arferol bywyd. Ond eleni mi fydd nifer yn gobeithio y bydd hefyd yn gyfle i gael hoe o Brexit. Mae’r holl gwestiwn o adael yr Undeb Ewropeaidd wedi rhwygo’r dosbarth gwleidyddol fel pobl ar lawr wlad. Bellach, mae dadlau tanbaid am ein perthynas gydag Ewrop yn artaith ddyddiol i nifer sydd wedi cael llond bol o’r cecru ddi-baid. Serch hynny, pan fydd ein gwleidyddion yn dychwelyd i San Steffan ym mis Ionawr mi fyddwn yng nghanol un o’r cyfnodau mwyaf tyngydfenol ein cenhedlaeth. Bydd Brexit yn agosau i fod yn realiti.
Erbyn ddiwedd mis Mawrth bydd Cymru a gweddil y Deyrnas Unedig yn agos at adael yr Undeb Ewropeaidd. Dydi ymestun y cyfnod negodi ddim yn hawdd ac mae’n ymddangos bod amynedd arweinwyr eraill Ewropaidd yn rhedeg allan. Mae angen cytundeb i ymsetun ein dyddiad gadael ac o weld agweddau ym Mrwsel yn ddiweddar byddai sicrhau hyn ddim yn hawdd. Ond y broblem sylfaenol yw bod angen cael cytundeb a’r ein dyfodol ar ôl gadael. Ddwy flynedd a mwy ers pleidleisio i adael – mae’n ymddangos rydym ddim agosau at setlo’r cwestiwm sylfaenol yma.
Mae’n edrych yn dywyll ar gynlluniau Theresa May sydd wedi cael cyfnod hynod anodd wrth y llyw. Mae dycnwch y prif weinidog wedi ei chadw mewn grym, ond mi fydd angen iddi daro trywydd gwahanol i gael allan o’i thrafferthion presenol.
Efallai y bydd ambell aelod Ceidwadol ar y meincicau cefn wedi ail-feddwl wrth fwyta eu twrci ‘dolig. Ond y tebygrwydd yw y bydd gwrthwynebwyr Theresa May yn gadarnach eu gwrthwynebiad i’w chynllun. Digon i ystyried yn ystod yr wyl.