Carmarthen Journal

Boc – Y Where’s Wally? Cymraeg cyntaf, nawr mewn llyfr

-

YN dilyn ei llwyddiant yng nghylchgra­wn Mellten, mae Boc y ddraig fach goch yn cael llyfr cyfan iddo’i hun y Nadolig yma! Dyma’r llyfr cyntaf o’i fath yn y Gymraeg, sy’n annog pob draig-dditectif mawr a bach i chwilio am wahanol eitemau sy’n cuddio yn y lluniau.

Meddai Meinir Wyn Edwards ar ran Y Lolfa: “Mae Boc wedi cael ymateb gwych yn y comic Mellten wrth i bobl graffu ar gartwnau anhygoel Huw Aaron o olygfeydd Cymreig. Mae’n wych bod Huw wedi mynd ati i greu cymaint o gartwnau newydd sbon i’w cynnwys yn y llyfr. Anrheg delfrydol i blant ac oedolion!”

Mae Ble Mae Boc? yn cynnwys 10 llun tudalen ddwbl, gyda phob taenlen yn dangos golygfa eiconig Gymreig, gan gynnwys yr Wyddfa, Castell Caerffili, fferm, gêm pêl-droed, Portmeirio­n, ar lan y môr a gorymdaith G yl Ddewi, a’r nod o ddod o hyd i Boc sy’n cuddio ym mhob llun. Mae cyfle i chwilio am restr o bethau eraill hefyd, a modd trafod a holi cwestiynau rhwng plant â’i gilydd, neu rhwng rhiant a phlentyn.

Meddai Bethan Gwanas am y llyfr: “Llwyth o hwyl a chwerthin - buon ni’n craffu a rhythu am oriau!”

Yn siarad am ei lyfr newydd, dywedodd Huw Aaron: “Rhwng Boc, y baddies, rhestr o bethau doniol a chymeriada­u eraill Mellten, mae ‘na dros 250 o bethau unigol i’w ffeindio i gyd, felly digon i gadw unrhyw blentyn yn dawel ar drip i fyny’r A470 ‘Dolig yma! Dwi wrth fy modd yn arlunio golygfeydd brysur llawn manylion bach doniol, felly roedd hi’n lot o hwyl creu’r llyfr yma...a lot o waith hefyd! Yn 2019, fydd Boc yn mentro eto wrth i ni gyhoeddi’r llyfr yn Saesneg hefyd. Pob hwyl gyda’r chwilio!”

Dyma’r llyfr cyntaf o’i fath yn y Gymraeg, gyda llyfrau cyfatebol wedi bod yn boblogaidd ers blynyddoed­d lawer yn y Saesneg. Mae llyfrau fel Where’s Wally? yn glasuron erbyn hyn, ac yn diddanu plant ac oedolion.

■ Mae Ble Mae Boc? gan Huw Aaron ar gael nawr (£4.99, Y Lolfa).

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom