Carmarthen Journal

Cyhoeddi’r Nofel Gymraeg Fwyaf Erioed – Epig Am Hanes Cymry America

-

YR wythnos hon cyhoeddir un o nofelau mwyaf uchelgeisi­ol yn y Gymraeg erioed, wedi ei ysgrifennu gan yr awdur arobryn Jerry Hunter a’i chyhoeddi gan wasg Y Lolfa. Mae Ynys Fadog yn epig hanesyddol gyffrous a darllenadw­y sy’n darlunio hynt cymuned Gymreig yn America ac yn cynnwys bron i chwarter miliwn o eiriau, ac yn cael ei chyhoeddi ddau gan mlynedd ers i’r ymfudwyr Cymreig cyntaf gyrraedd Ohio.

Mae’r nofel yn darlunio cyfnod eithriadol o gyffrous yn hanes America – o 1818 i 1937, gan wneud hynny drwy fywyd Sara Jones a’i theulu, a’u hymgais am fywyd gwell ar lan yr Ohio.

Meddai Jerry Hunter: “Mae’r stori hon wedi bod yn fy mhen ers rhyw ugain mlynedd, ac mae’n dipyn o ryddhad ei gweld mewn print o’r diwedd. Gan fy mod i wedi gwneud llawer o ymchwil yn y maes, mae cymaint o hanes Cymry America ar flaenau ‘mysedd, ac roedd yn wych cael defnyddio ffuglen i drin y pwnc.”

Lansiwyd y gyfrol ym Mhant Du, Penygroes gyda pherfformi­ad gwych gan Lisa Jên, cantores y band rhyngwlado­l 9bach. Perfformio­dd hi ganeuon sy’n cael sylw yn y nofel, gan gynnwys emyn Cymraeg Americanai­dd nad oedd neb wedi’i ganu ers rhyw ganrif a hanner, mae’n debyg. Dywedodd Jerry Hunter:

“mae cerddoriae­th yn greiddiol i’r modd dw i’n darlunio gwaed o ddylanwada­u diwylliann­ol – y Cymreig a’r Americanai­dd – ac roedd yn wefreiddio­l clywed Lisa Jên yn dod â hynny’n fyw mewn ffordd mor bwerus a chofiadwy.”

Disgrifiwy­d y nofel gan yr awdur a’r newyddiadu­rwr Jon Gower, fel “epig o nofel”, gan ychwanegu: “Dyma artist yn dewis cynfas fawr a’i llenwi gyda themâu bywyd - cariad, rhyfel, heddwch, ffydd - ynghyd â chast prysur o gymeriadau byw. Afon o stori sy’n llifo fel bywyd ei hun.”

Mae Jerry Hunter yn enedigol o Cincinnati, Ohio, UDA ac mae’n Athro yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Enillodd ei nofel gyntaf, Gwendydd, y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaeth­ol yn 2010. Cafodd ei drydedd nofel, Y Fro Dywyll, ei enwebu am wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2015. Addaswyd hi i’r Saesneg gan yr Athro Patrick K. Ford a chyhoeddwy­d Dark Territory yn 2017. Enillodd ei gyfrol academaidd Llwch Cenhedloed­d, wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2004. Mae Jerry’n byw gyda’i deulu ym Mhenygroes, Dyffryn Nantlle.

■ Mae Ynys Fadog gan Jerry Hunter ar gael nawr (£14.99, Y Lolfa).

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom