Y Drindod Dewi Sant yn penodi’r Artist Pop Prydeinig Syr Peter Blake yn Athro Ymarfer
MAE cyfraniad Syr Peter Blake i Gelfyddyd Bop Brydeinig yn ddihafal. Mae yn arbennig o adnabyddus am ddefnyddio gludweithiau a chasgliadau. Mae ei waith wedi ei ysbrydoli gan ei gariad at eiconau ac effemera diwylliant poblogaidd, gan gynnwys posteri sêr ffilm a cherddoriaeth, bathodynnau, ffotograffau, hysbysebion a chardiau post. Mae wedi gweithio gyda bandiau enwog a sêr roc, gan greu gwaith celf cloriau arloesol ar gyfer albymau cerddoriaeth gan gynnwys y Beatles, Paul Weller, Band Aid a’r Who. Mae’n parhau i weithio’n doreithiog o’i stiwdio yng ngorllewin Llundain, ac mae ei enw da a’i boblogrwydd yn parhau.
Caiff unigolyn y teitl ‘Athro Ymarfer’ i anrhydeddu a chydnabod y person hwnnw am ennill bri academaidd a/neu bersonol yn y disgyblaethau hynny sy’n cyd-fynd â bwriadau strategol y Brifysgol.
Meddai Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant yr Athro Medwin Hughes, DL: “Rwy’n falch o benodi Syr Peter yn Athro Ymarfer yn y Brifysgol. Mae’n ymuno â nifer o unigolion eithriadol sy’n gweithio gyda’r brifysgol i gynnig eu harbenigedd unigryw a phroffesiynol er budd ein myfyrwyr. Datblygiad cymharol newydd i’r Brifysgol yw penodi Athrawon Ymarfer sy’n galluogi’r Brifysgol i weithio gyda phartneriaid sydd ag arbenigedd penodol ac sy’n gysylltiedig â’n nodau strategol ac nad ydynt yn dod trwy’r llwybr academaidd traddodiadol. Trwy ein hymwneud yn ein darpariaeth, gallwn wella’r mynediad at amrywiaeth o sgiliau pendant er mwyn cefnogi’r gwaith o ddarparu cyrsiau academaidd ac adeiladu ar yr enw da sydd gennym eisoes am ddarparu sgiliau graddedig yng nghyd-destun cyflogadwyedd, cynaliadwyedd ac addysg a hyfforddiant sy’n gysylltiedig â gwaith.”
Gwnaed y penodiad yn ystod noson a gynhaliwyd gan Goleg Celf Abertawe a’u trefnu gan Gyfeillion Glynn Vivian, i ddathlu gwaith yr artist pop Prydeinig Syr Peter Blake yn yr Alex. Wrth fynd â’r gynulleidfa o’r Coleg Brenhinol i’w weithiau diweddaraf ar Joseph Cornell, siaradodd cyfaill Syr Peter ers 30 mlynedd, Jeff Towns, a’r awdures o Abertawe, Jude Rogers, â’r artist am ei hoffter o Dylan Thomas, Cymru a phynciau eraill.