Carmarthen Journal

Merched y Wawr Llandysul

-

OHERWYDD y difrod yn y Pwerdy yn sgil llifogydd Storm Callum, bu rhaid dod o hyd i gartef newydd ar gyfer cyfarfod mis Tachwedd, a diolch i Eglwys St Tysul, Llandysul, am gael defnyddio neuadd yr eglwys lle roedd croeso yn cael ei estyn i’r aelodau gan Megan, y llywydd. Ar ôl canu cân y mudiad, croesawyd Carys Jones o Lansteffan i’n plith, gwyneb cyfarwydd ar Prynhawn Da S4C. Eglurodd i ni fel yr oedd yn mynd ati i gynllunio setiau a dillad ar gyfer rhaglennu teledu. Rhoddwyd y diolchiada­u am noswaith diddorol gan Nesta. Rhianon ennillodd y raffl a oedd yn rhoddedig gan Wenna, ac roedd y te yng ngofal Valerie, Mary a Petra.

Yng nghyfarfod mis Rhagfyr, Yvonne yr is-lywydd oedd yn llywyddu yn absenoldeb Megan. Canwyd cân y mudiad, ac fe gawsom noswaith o ffilmiau yng nghwmni Ivor a Michelle Thomas. Gwyliasom dwy film fer, y cyntaf yn dangos Dyffryn Clettwr ar ei orau a hanes hen gymeriadau o’r ardal, ar ail ffilm yn dangos fel y mae bywyd merched wedi newid dros y blynyddoed­d diwethaf.

Gwnaed y diolchiada­u am noswaith hwyliog gan Valerie. Roedd y raffl yn rhoddedig gan Beth, ac Ann Jones oedd yr ennillydd. Paratowyd mins peis a gwin poeth i’r aelodau gan Megan, Geralyn a Sheila cyn inni ddymuno Nadolig Llawen i’n gilydd a throi tuag adref.

Noder bod cyfarfod mis Ionawr ar nos Wener y 11 o Ionawr yn Ngwesty’r Porth, pan y bydd noswaith cwis wedi e’i drefnu i gymdeithas­au a busnesi Llandysul.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom