Brosiect i ddiogelu bywyd gwyllt
MAE Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru’n dechrau ar brosiect pummlynedd i ddathlu garddwriaeth Cymru, i ddiogelu bywyd gwyllt ac i bwysleisio holl fanteision tyfu planhigion – i’w bwyta, i roi hwyl inni ac i gyfrannu at ein lles a’n hiechyd.
Tyfu’r Dyfodol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
P’un a ydych yn arddiwr profiadol, yn dyfwr dibrofiad neu’n ddarpar wenynwr – rydym am helpu i roi hyfforddiant, gwybodaeth a chymorth i chi. ■ Y Weledigaeth
Mae tri phwyslais i’r prosiect, a’r gobaith yw y bydd y negeseuon a’r profiadau ym mhob un yn cael dylanwad hirdymor ar draws Cymru gyfan.
■ Gerddi er ein Lles a’n Hiechyd Dyma neges sy’n werth ei gwaeddu i’r uchelderau: byddwch yn hapus, gofalwch am eich iechyd, ewch mas i arddio. Mae gan erddi rhan bwysig i’w chwarae yn iechyd ein hamgylchedd hefyd, gan eu bod yn gallu cynnig cynefinoedd da i fywyd gwyllt a lleihau llygredd. ■ Dathlu Garddwriaeth Cymru Byddwn yn tynnu sylw at waith meithrinfeydd arbenigol sy’n datblygu planhigion a blodau unigryw a hefyd tyfwyr masnachol sy’n cynhyrchu ffrwythau a llysiau o’r safon gorau. Trwy gyfres o ddigwyddiadau cyffrous byddwn yn amlygu amrywiaeth ac ansawdd cynnyrch garddwriaethol Cymru. ■ Garddwriaeth i’r Dyfodol Gallwn sicrhau dyfodol disglair i erddi, bywyd gwyllt a’r blaned gyfan trwy ddatblygu rhwydweithiau effeithiol rhwng garddwriaeth a gwyddoniaeth. Mae’r Ardd mewn sefyllfa ardderchog i gysylltu’r ddwy ddisgybliaeth. Byddwn yn datblygu ‘cynllun sicrwydd’ wedi ei seilio ar dystiolaeth o’n hymchwil ar beillwyr a fydd yn galluogi amrywiaeth eang o blanhigion sydd wedi eu tyfu mewn dull cynaliadwy yng Nghymru ddod yn ‘Blanhigion i Beillwyr’ swyddogol.
Am fwy o wybodaeth ar gyrsiau a digwyddiadau’r prosiect, ffoniwch 01558 667149 neu e-bostiwch gtf@ gardenofwales.org.uk.
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr wythnosol i gael y gwybodaeth diweddaraf ar ein cyrsiau a digwyddiadau.
■ Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.