Carmarthen Journal

Penygroes

-

Calfaria Dydd Fercher am 2yp, Astudiaeth Feiblaidd. Dydd Iau am 10yb, cwrdd gweddi; 2yp, Dosbarth gwau; 5,30yh, Clwb JAM. Dydd Sul am 11yb, oedfa ddwyieitho­g ac Ysgol Sul; 5.30yh, oedfa Gymraeg, gyda’r gweinidog yn gwasanaeth­u. Cynhelir cwrdd gweddi wythnosol gan aelodau Calfaria, fel arfer ar fore Iau am 10yb. Yn ystod y cwrdd gweddïwn dros bobl leol a rhai sy’n bellach i ffwrdd. Os ydych chi, neu ffrind neu berthynas i chi, yn wynebu sialens yn eich bywyd ar hyn o bryd ac os hoffech chi ein bod ni’n gweddïo drostoch chi neu drostyn nhw ddydd Iau nesa’ yna ffoniwch Aled Maskell ar 01554 775746 ac fe fydd yn hapus i’ch cynnwys yn ein gweddïau. Cedwir cyfrinache­dd y gweddïau o fewn y grwp gweddi.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom