Gwobrau dathlu diwylliant Sir Gaerfyrddin
BYDD y rhai sy’n cyfoethogi ein bywydau trwy gerddoriaeth, celf a llenyddiaeth yn cael eu cydnabod yn ail Wobrau Dathlu Diwylliant Sir Gaerfyrddin.
Fe’i cynhelir gan Gyngor Sir Caerfyrddin a’u cefnogi gan Carmarthen Journal a Llanelli Star. Mae’r gwobrau’n anelu at ddathlu rhagoriaeth ym maes y celfyddydau a diwylliant, ac amlygu’r hyn rydym yn ei gyflawni’n ddiwylliannol ledled y sir.
Cynhelir y gwobrau ym mis Ebrill, a byddant yn tynnu sylw at bwysigrwydd diwylliant yn ein rhanbarth.
Maent yn agored i unrhyw un sy’n byw, yn gweithio neu’n dod o Sir Gaerfyrddin a wnaeth gyfraniad sylweddol i dirwedd ddiwylliannol Sir Gaerfyrddin yn ystod 2018. Bydd unigolion, grwpiau a sefydliadau yn cael eu hystyried ar gyfer gwobrau ar draws ystod o gategorïau a gynlluniwyd i ddenu sylw at bob agwedd ar ddiwylliant yn Sir Gaerfyrddin.
Syniad y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr aelod o’r bwrdd gweithredol dros ddiwylliant, chwaraeon a thwristiaeth, yw’r gwobrau.
“Rydym yn ffodus o’n treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog yma yn Sir Gaerfyrddin, ac o’r llu o artistiaid nodedig, mawrion y byd llenyddol, a sêr y llwyfan a’r sgrin sy’n parhau i’n hysbrydoli ni hyd heddiw,” meddai.
“Wrth gynnal y gwobrau hyn, rydym am ddathlu’r rhai sy’n cyfoethogi ein bywydau ac ychwanegu bywiogrwydd i’r sir wych hon heddiw.
Mae hyn yn dilyn llwyddiant ysgubol y dathliad cyntaf y llynedd, sef ffordd i gydnabod ein pobl ddawnus a mwynhau eu doniau.”
Mae chwe chategori o wobrau yn cael eu hagor ar gyfer enwebiadau, sef:
Rhagoriaeth yn y Celfyddydau Perfformio
Cydnabod perfformiwr neu grwp o berfformwyr neu sefydliad sydd wedi rhagori yn 2018. Gall hyn gynnwys theatr, dawns, llafar a chomedi (ond nid yw’r wobr wedi’i chyfyngu i’r rhain). Rhagoriaeth yn y Celfy-
ddydau Gweledol a Chr
efft: Cydnabod unigolyn, grwp neu sefydliad sy’n gweithio yn y celfyddydau gweledol, dylunio, ffotograffiaeth neu grefftau y mae eu gwaith wedi gadael argraff barhaol yn 2018.
Rhagoriaeth yn y Cyfryn
gau Creadigol: Cydnabod cyflawniadau unigolyn, grwp neu sefydliad yn y cyfryngau creadigol yn ystod 2018. Gallai hyn fod ar gyfer ffilm, animeiddiad, dylunio graffig, dylunio gemau a chelf ddigidol (ond nid yw’r wobr wedi’i chyfyngu i’r rhain).
Rhagoriaeth mewn Lle
nyddiaeth: Cydnabod unigolyn, grwp neu sefydliad rhagorol sy’n gweithio ym myd ysgrifennu creadigol, llenyddiaeth, rhyddiaith neu farddoniaeth a wnaeth ragori yn ystod 2018. Rhagoriaeth mewn Treftadaeth: Cydnabod rhagoriaeth gan unigolyn, grwp neu sefydliad a gododd broffil neu ddathlu hanes a threftadaeth Sir Gaerfyrddin yn 2018. Rhagoriaeth mewn Cerd-
doriaeth: Cydnabod cyflawniadau unigolyn, grwp neu sefydliad mewn cerddoriaeth yn ystod 2018. Gall hyn gynnwys cerddorion, cantorion, arweinwyr a chyfansoddwyr (ond nid yw’r wobr wedi’i chyfyngu i’r rhain).
Bydd y beirniaid yn dewis enillwyr dwy wobr arbennig:
Talent Ifanc: Unigolyn neu grwp, o dan 25 oed, sy’n gweithio mewn unrhyw ddisgyblaeth, sy’n arddangos talent a photensial go iawn yn gymharol ifanc. Cyfraniad Eithriadol i
Ddiwylliant: Mae hon yn wobr i rywun sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at y celfyddydau a diwylliant yn Sir Gaerfyrddin dros gyfnod hir.
Bydd panel beirniadu yn llunio rhestr fer, cyn dewis y tri enillydd ym mhob categori.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw Dydd Sul, Chwefror 24, am 11.59pm. Gall pobl enwebu unigolyn, grwp neu sefydliad ar-lein yn https:// form . jot formeu . com/90074388514359 neu galwch yn eich llyfrgell leol neu ganolfannau Hwb y Cyngor yn Llanelli a Rhydaman am gymorth â’r cais ar-lein.
Bydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno mewn seremoni yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli, ddydd Gwener, Ebrill 5.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y digwyddiad hwn, cysylltwch â Rheolwr Digwyddiadau Rhanbarthol Cyfryngau Cymru, Isabel Goodman ar 01792 545511 neu e-bost: isabel.goodman@ mediawales.co.uk