Cyfnod prysur i’r Fenter
MAE’N gyfnod prysur i staff Menter Gorllewin Sir Gâr gyda nifer o brosiectau cyffrous ar y gorwel. Byddwn yn cydweithio eto gydag Amgueddfa Wlân Cymru i drefnu bore hwyl i’r teulu i ddathlu Dydd Gwyl Dewi ar Mawrth 9. Byddwn yn trefnu sesiwn stori, crefftau a llawer llawer mwy ac mae’r cyfan am ddim felly dewch draw i’n gweld rhwng 10 a 3 o’r gloch yn yr Amgueddfa Wlân yn Nrefach Felindre.
Hefyd i nodi Dydd Gwyl Dewi rydym yn trefnu trip i ddathliadau Gwyl Dewi Eurodisney yn Paris. Mae’r trip yn cael ei drefnu ar y cyd â Cered, Menter Iaith Ceredigion a Menter Iaith Sir Benfro. Byddwn yn mynd ar fws Dydd Iau, Mawrth 7 ac yn dychwelyd ar Ddydd Sul, Mawrth 10. Bydd y bws yn llawn o deuluoedd cyffrous ac rydym yn edrych ymlaen at y profiad!
Edrychwn ymlaen yn arw at wythnos o ddathlu yn nhref Caerfyrddin gyda nifer helaeth o ddigwyddiadau ar draws y dref. Fe fydd Pared Gwyl Ddewi Tref Caerfyrddin yn cael ei gynnal eleni ar Ddydd Sadwrn, Mawrth 2, am 11 o’r gloch y bore gan ddechrau o Eglwys San Pedr a gorymdeithio i ganol y dref. Bydd y pared yn cael ei arwain gan Fand Chwyth y Dref a bydd Eglwys San Pedr yn cynnig coffi a phice ar y maen tu fewn i’r eglwys ac fe gyflwynir eitemau gan Gôr newydd y Fenter, Côr Myrddin dan arweiniad Nia Clwyd Davies. Mae croeso agored i fudiadau ac unigolion i ddod a’u baneri lliwgar ac i fod yn rhan o’r gorymdeithio.
Yna, yn ystod y bore a’r prynhawn bydd cyflwyniadau ar lwyfannau ar y Clos Mawr ac yng Nghanolfan Siopa Santes Catrin gan gorau a thimau dawnsio lleol yn ogystal ag unigolion.
Hefyd fel rhan o’r dathliadau fydd y fenter yn trefnu Jambori yn llawn hwyl ar Ddydd Mercher, Chwefror 27 am 1 o’r gloch. Cadwch lygaid am ragor o wybodaeth ar ein gwefannau cymdeithasol a gohebiaeth ar draws y dref.
Cynhaliwyd Gig hynod lwyddiannus ar Ionawr 11 gyda dros 300 o bobl ifanc wedi mynychu i wylio bandiau poblogaidd Cymru - Candelas, Mellt a Wigwam. Hyfryd oedd gallu cydweithio gydag Urdd Myrddin, Coleg Cymraeg Cangen y Drindod a hefyd CFFI Sir Gâr. Diolch i bawb gefnogodd y noson. Mi roedd hi’n noson a hanner, ac edrychwn ymlaen yn arw at drefnu’r un nesaf.
Byddwn yn cefnogi Gwyl Fwyd Castell Newydd Emlyn eto eleni trwy drefnu’r llwyfan berfformio. Bydd y llwyfan yn llawn talent lleol yn cynnwys corau, unawdwyr, sesiynau ymarfer corff a nifer fawr o ysgolion yn rhoi amrywiaeth o adloniant. Mae’r wyl yn cael ei chynnal ar Ddydd Sadwrn, Mehefin 8, ym mharc Castell Newydd Emlyn. Bydd cegin arddangos a dros 40 o gynhyrchwyr bwyd lleol yn gwerthu’u nwyddau. Mae’r mynediad am ddim felly dewch yn llu!
Os hoffech drafod unrhyw syniadau neu wybod mwy am ein digwyddiadau dros y misoedd nesaf, hoffwch ein tudalen Facebook ‘Menter Gorllewin Sir Gar’ a dilynwch ni ar Twitter ‘MenterGSG’ neu cysylltwch ar 01239 712934 / ymholiad@mgsg. cymru