Merched y Wawr Cangen Caerfyrddin
CYFARFOD Ionawr 2019: Ar ddechrau’r cyfarfod cyflwynodd Glenys Thomas siec o dros £700 o bunnoedd i’r Parchedig Tom Defis, sef cyfanswm casgliad ein Plygain i’w ddefnyddio er lles Cymorth Cristnogol.
Llywydd y noson oedd Nansi Hayes a chyflwynodd ein gwraig wadd i ni sef Dr Llinos Roberts,sydd yn byw yma yn y dre gyda ‘i gwr Aled a’r plant – Miriam,Olwen,a Gwydion.
Mae hi yn feddyg teulu rhan amser yn Tymbl ac yn diwtor yng ngholeg feddygol Abertawe,yn ogystal a hyfforddi rhai sydd a graddau amrywiol i fod yn feddygon hefyd. Teithiodd yn helaeth yn ystod ei gyrfa gan gynnwys yr Alban ac Awstralia ac enwi dim ond dau.
Ei thema oedd Osteoporosis. Addas iawn i ni fel menywod a chawsom esboniad trylwyr ac adeiladol ganddi trwy gymorth sleidiau. Roedd ei sylwadau yn gadarnhaol a chysurlon iawn.
Er nad oes gwella i’r cyflwr mae modd byw gyda’r cyflwr trwy gymeryd tabledi, cerdded,a bod Chwistrell ar gael hefyd. Cwis lluniau wedyn i ddyfalu gwahanol anhwylderau megis yr Eryr, Y Frech Goch ac yn y blaen. Hwn eto yn addysg i ni i adnabod symptomau.
Wrth gloi fe soniodd Dr Llinos am Elisabeth Gar- rett Anderson ac Elisabeth Blackwell, a’r ddwy yn derbyn clod am fod yn arloeswyr yn y byd meddygol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ond atgoffodd ni wedyn am Gymraes na chafodd yr un sylw am ei holl waith arloesol, sef ein Betsi Cadwaladr ni. Coffa da amdani.