C.Ff.I Sir Gâr
Clybiau FFermwyr Ifanc Sir Gâr
Rydym yn fudiad ieuenctid sy’n darparu cyfleoedd i 700 o aelodau rhwng 10 a 26 oed sy’n byw yn Sir Gâr. Mae 23 o Glybiau yn Sir Gâr sy’n cael eu rhedeg gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc. Mae’r mudiad yn cynnig cyfleoedd a phrofiadau arbennig i’r aelodau wrth iddynt ddatblygu sgiliau newydd, ennill hyfforddiant gwerthfawr, teithio’r byd, bod yn rhan annatod o’r gymuned a chael cyfle i wneud ffrindiau am oes.
Oherwydd y firws ofnadwy yma, fel nifer fawr o fudiadau eraill mae holl weithgareddau a chystadlaethau’r Mudiad wedi eu canslo neu ohirio am y tro. Er hyn, rydym fel Mudiad yn ymfalchïo yn y gwaith mae’n aelodau a’n Clybiau yn parhau i’w wneud yn eu Cymunedau lleol. Dyma ragolwg o’r gweithgareddau mae’r Mudiad wedi ceisio parhau i’w wneud:
Helpu allan yn y Gymuned
Ers dechrau’r “Lockdown” mae Clybiau Ffermwyr Ifanc ar draws Cymru wedi mynd ati i gynnig cefnogaeth i’w Cymunedau lleol yn ystod yr amser ansicr yma, ac mae’r Clybiau i gyd yn Sir Gâr wedi mynd ati i gefnogi nifer fawr o aelodau yn eu Cymunedau lleol i siopa bwyd a casglu meddyginiaeth gyda ambell aelod wedi rhoi ambell beth yn wythnool i’w canolfan bwyd leol.
Os ydych chi, neu rywun chi’n adnabod angen cymorth mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â ni a hyderaf ein bod yn medru fod o gefnogaeth i chi.
Cadw mewn cysylltiad gyda’r aelodau
Gan nid oes modd i Glybiau gwrdd bellach, mae nifer fawr o Glybiau wedi mynd ati i gwrdd ar wefannau megis Zoom neu Skype i gymdeithasu gyda’i gilydd. Mae’r gwefannau yma yn grêt i gynnal noson cwis neu hyd yn oed bingo.
Fel Sir, rydym wedi bod yn brysur yn rhoi ambell dasg ar ein gwefannau Cymdeithasol er mwyn i’r aelodau rhoi cynnig ar amryw o bethau megis coginio neu hyd yn oed gwnïo. Mae’r Mudiad yn Sir Gâr hefyd yn dathlu 75 mlynedd eleni, ac fel ffordd o ddathlu hyn yn ystod yr amser ansicr yma, rydym yn rhoi fideo i fyny o aelod yn dangos “diwrnod yn ei bywyd” pob nos. Mae’n siawns i’r aelod dangos beth maent yn ei wneud o ddydd i ddydd a hefyd yn rhoi siawns i aelodau eraill ar draws y Sir ddod i nabod aelodau gwahanol.
Yn ogystal â CFFI Sir Gâr, mae CFFI Cymru wedi creu Llwyfan Rhithwir – lle ma heriau yn cael eu cyflwyno pob pythefnos, heriau sydd yn ymwneud â thasgiau megis Gosod Blodau, Chwaraeon, Coginio, Crefft ac Amaethyddiaeth. Mae’n siawns i aelodau ar draw Cymru cymryd rhan, a chadw mewn cysylltiad gyda’r Mudiad.
Rali Rhithwir
Mae Diwrnod Rali’r Mudiad wedi bod yn un o’r uchafbwyntiau yng nghalendr y Mudiad yn flynyddol ers degawdau ac yn anffodus roedd yn rhaid gohirio’r diwrnod yma eleni. Er hyn, penderfynwyd creu Rali
Rithwir ar lein, gan osod pedwar tasg wahanol i’n haelodau sef Creu clawr i gylchgrawn Egin y Sir, Barnu Stoc Gwartheg Godro, Fideo Tik Tok a hefyd unrhyw ddarn o Grefft. Cafwyd nifer fawr o’n haelodau yn mentro ar y tasgau a chafwyd eitemau o safon uchel.
Ar Ddydd Sadwrn 9fed Mai (diwrnod Rali 2020 i fod) buom yn rhoi ambell fideo a lluniau o ddiwrnod Rali’r gorffennol ar ein gwefannau cymdeithasol, er mwyn rhoi’r siawns i’n haelodau presennol a’r cyn-aelodau edrych nôl ar yr amseroedd fel aelod.
Y Dyfodol
Er does neb yn gwybod beth sydd yn mynd i ddigwydd yn yr wythnosau neu’r misoedd nesaf, rydym ni fel CFFI Sir Gâr yn benderfynol o gadw i fynd a pharhau i fod o fudd i’n Cymunedau lleol, cadw mewn cysylltiad gyda’n haelodau a ffrindiau’r Mudiad.
Rydym yn eich croesawi i ymuno â ni ar ein gwefannau cymdeithasol – i weld mwy o beth rydym yn ei gynnig.
Os ydych am fwy o wybodaeth am unrhyw beth hefyd – cysylltwch â ni.