‘Achubais fy nillad ‘- cystadleuaeth chwyldro ffasiwn
CYNHELIR wythnos y chwyldro ffasiwn bob blwyddyn i nodi pen-blwydd trychineb Rana Plaza ym Mangladesh. Ar 24 Ebrill 2013, cwympodd adeilad yn llawn o weithwyr dillad, gan ladd mwy na 1,100 o bobl ac anafu 2,500 arall. Dechreuwyd ymgyrch y chwyldro ffasiwn er mwyn ceisio newid y diwydiant ffasiwn fel nad oes angen i unrhyw un arall farw yn enw ffasiwn.
Mae wythnos y chwyldro ffasiwn eleni, wrth gwrs, yn digwydd yng nghanol argyfwng Covid-19. Yn y diwydiant ffasiwn byd-eang, mae brandiau’n tueddu i dalu eu cyflenwyr wythnosau neu hyd yn oed fisoedd ar ôl eu derbyn, sy’n golygu bod angen i gyflenwyr dalu ymlaen llaw am ddeunyddiau. Fodd bynnag, mewn ymateb i’r pandemig, mae nifer o frandiau ffasiwn mawr a mân-werthwyr yn canslo archebion ac yn atal taliadau am archebion sydd eisoes wedi’u gosod, hyd yn oed pan fydd y gwaith eisoes wedi’i wneud. Nid ydynt yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am yr effaith a gaiff hyn ar y bobl sy’n gweithio yn eu cadwyni cyflenwi – hyd yn oed pan fydd yn golygu bod yn rhaid i ffatrïoedd ddinistrio nwyddau diangen a diswyddo gweithwyr yn eu miloedd.
Er ein bod i gyd yn dyheu am i bethau ddychwelyd i normal, mae gennym gyfrifoldeb i siapio sut olwg sydd ar y normal newydd. Gallwn ddewis gwrthod cwmnïau sy’n trin gweithwyr a ffasiwn fel rhai tafladwy.
Pan allwn fforddio prynu dillad newydd eto gallwn ddewis masnach deg a dillad moesegol sydd wedi cael eu gwneud gyda gweithwyr a’r amgylchedd mewn golwg. Ac yn y cyfnod hwn o gyfyngiadau, efallai y gallwn ddechrau chwyldroadau wrth ofalu am y dillad sydd gennym yn barod.
Dyma pam fod grwp masnach deg Castell Newydd Emlyn yn rhedeg cystadleuaeth ‘Achubais fy nillad’. Yr her yw dod o hyd i eitem o ddillad yr ydych yn eu caru’n fawr ond nad yw bellach yn ffitio neu sydd yn edrych yn hen neu wedi’i staenio. A allwch chi uwch-gylchu’r eitem honno i wneud rhywbeth newydd a gwych a fydd yn para i’r dyfodol?
I gystadlu, tynnwch lun o’ch dilledyn cyn ac ar ôl i chi ei drawsnewid (gyda chi’n ei fodelu os mynnwch) a’i uwch-lwytho i Facebook ar dudalen Facebook Castell Newydd Emlyn (https://www. facebook.com/ FTNewcastleEmlyn/) neu dagiwch @FTNewcastleEmlyn yn eich lluniau.
Bydd 4 adran ar gyfer oed: Cyfnod Sylfaen, Blynyddoedd, Uwchradd, Oedolion. Dyddiad Cau 31ain Mai 2020. Cyhoeddir yr enillydd ar 5ed Mehefin sef Diwrnod Amgylchedd y Byd. #ChwyldroFfasiwn #HoffDdilladYnPara #ArosAdreBywnDeg