Carmarthen Journal

YN FYR

-

■ Banc Bwyd y Gwendraeth Sefydlwyd banc bwyd newydd yn Neuadd Y Tymbl gan Gyngor Cymuned Llannon mewn partneriae­th a Chyngor Sir Gâr, i helpu pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ganlyniad economaidd Covid-19. Mae’n gallu cefnogi rhai sydd wedi colli swydd, wedi colli enillion oherwydd gostyngiad oriau gwaith, rhai sy ar ‘furlough’ neu rhai sy’n hunan cyflogedig ac yn aros am fudd daliadau. Bydd parseli bwyd yn cael eu danfon ar draws Cwm Gwendraeth uchaf, o Gorslas i Bonthenri, brynhawn dydd Llun, Mercher a Gwener. Efallai, bydd bwyd ci a chath ar gael weithiau. Cysylltwch â 01269 841213 (dewis 7) neu siarad â Sue James 07832 187600. Gall Sue esbonio am hyn ac am y banc bwyd a’r cynllun rhannu bwyd yn Cross Hands.

■ Mae CYD Llangranno­g (Phillipa Gibson a Nic Dafis) yn cynnal cyfarfod ar-lein (Zoom) bob Nos Fercher.

Dyma’r manylion ar sut i ymuno. Cyd Llangranno­g - bob nos Fercher, 7.30yh-9 yh – cyfarfod Zoom. Zoom ydy enw’r meddalwedd. Rydych chi’n gallu defnyddio eich cyfrifiadu­r neu eich tabled. Sesiwn dim Saesneg! Croeso i bawb: dewch bach yn gynnar os ydych chi ddim wedi defnyddio Zoom o’r blaen. Cyferiad: tinyurl.com/zoomllangr­annog

■ Storfa JJ’s Premier Pentrecwrt Rydym yn dosbarthu bob dydd rhwng 4yp-6yp. Os oes angen unrhyw beth arnoch chi, ffoniwch y siop ar 01559 363747 neu anfonwch neges atom ar FB erbyn canol dydd i dderbyn eich nwyddau ar yr un diwrnod. Mae isafswm archebion yn berthnasol a bydd y rhai mwyaf bregus yn cael eu nwyddau yn gyntaf fel blaenoriae­th. Rydyn ni yma i chi oherwydd rydych chi wedi bod yma i ni. Ymunwch â’n grwp WhatsApp i gael gwybodaeth am ennill pwyntiau gyda’ch cerdyn teyrngarwc­h neu sut i gofrestru ar gyfer eich cerdyn teyrngarwc­h a dechrau ennill pwyntiau gyda phob pryniant. (Tybaco a bwyd babanod wedi’i eithrio).

Mae’r siopau bwyd canlynol yn hapus ichi gysylltu â nhw dros y ffôn i archebu unrhyw nwyddau sydd eu hangen arnoch ymlaen llaw. Byddant yn cael eu llwytho mewn bagiau, yn barod i chi eu talu a’u codi o’r siop The following food stores are happy for you to contact them by telephone to pre order any goods you require. They will be loaded in bags, ready for you to just pay and pick them up:

■ Premier Pontweli, 01559 362696

■ Local Bargain Pencader, 01559 389891

■ Premier Pencader Stores, 01559 384373

■ Siop y Pentre Llanllwni, 01559 395203

■ Garej Windy Corner (gellir cludo), 01559 389052

■ Cig Awmor Meats, 01559 384253.

Am brydau tecawê:

■ The Belle Vue Inn Llanllwni, 01570 480495

■ Babs takeaway Pontweli, 07813 107053

Thank you to each and every one of the above for their service – Diolch yn fawr iawn am eich gwasanaeth – prynwch yn lleol!

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom