Carmarthen Journal

Actor Rhys Ifans yn ‘torri calon wrth feddwl am weithwyr yn trîn cleifion Covid-19 heb offer i’w cadw nhw’n ddiogel’

-

MEWN fideo emosiynol, dywed Rhys Ifans “Dwi’n torri ‘nghalon wrth feddwl am weithwyr iechyd a gweithwyr gofal yn gorfod trin cleifion Covid-19 heb offer gwarchodol cywir i’w cadw nhw’n ddiogel.”

Daw’r neges mewn fideo i gefnogi gwaith Tarian Cymru, mudiad gwirfoddol sy’n codi arian i brynu’r offer PPE sydd ei angen. Mae Tarian Cymru wedi codi dros £37,000 yn barod er mwyn diogelu gweithwyr y sectorau iechyd a gofal, gyda tharged o godi £50,000.

“Mae £14 yn prynu kit Covid-19 sylfaenol i un gweithiwr iechyd,,” meddai Rhys Ifans yn y fideo. “Mae pob ceiniog sy’n cael ei godi i Tarian Cymru yn mynd tuag at prynu PPE o ansawdd meddygol sy’n cael ei ddosbarthu yn syth i ddwylo gweithwyr iechyd a gweithwyr gofal Cymru.

“Fe ellwn ni wneud gwahaniaet­h os ni’n ymateb yn gyflym. Mae pob rhodd chi’n rhoi i Tarian Cymru yn achub bywydau yng Nghymru.”

Daw cefnogaeth o bob cwr o Gymru a’r tu hwnt. Wythnos diwethaf, rhyddhawyd­d cân gan Carwyn Ellis (Colorama, Rio 18), ac EP gan Gareth Bonello, gyda’r elw yn mynd i Tarian Cymru.

Mae’r grwp pop Eden newydd ryddhau cân mewn fideo ar Facebook, i gefnogi’r ymgyrch. Dros y Sul, codwyd dros £3,400 mewn ocsiwn o luniau, barddoniae­th a gwyliau a roddwyd am ddim er mwyn cefnogi’r achos. Mae grwpiau a sefydliada­u hefyd wedi rhoi yn hael, gyda rhoddion arwyddocao­l a hynod werthfawr yn dod o ffynonella­u mor amrywiol â’r

Barry Horns, Cymdeithas Tai Wales and West, a grwpiau cymunedol ledled Cymru.

Mae pob ceiniog a godir gan Tarian Cymru yn mynd tuag at brynu offer gwarchodol. Mae’r grwp yn cydweithio gydag elusenau fel NHS Hero Support er mwyn cael prisiau da ac er mwyn sicrhau ansawdd wrth archebu dramor. Mae hefyd yn cefnogi grwpiau lleol sydd yn creu PPE yn Ysgol Bro Morgannwg ac Ysgol y Preseli.

■ Gellir gweld fideo cartref Rhys Ifans ar wefan https://tarian.cymru

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom