CASTELL Newydd Emlyn yn llwyddo i adnewyddu ei statws fel tref masnach deg:
Ar y 19eg o Fawrth eleni fe gafodd Castell Newydd Emlyn ei adnewyddu fel tref masnach deg.
Daeth Castell Newydd Emlyn yn dref masnach deg am y tro cyntaf ym mis Hydref 2014 ac er mwyn cadw ei statws mae angen i’r grwp llywio masnach deg gwblhau adnewyddiad bob dwy flynedd.
Mae’r adnewyddiad yn adrodd ar yr ymgyrchu llwyddiannus a’r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o faterion masnach deg yn y dref, a phwysigrwydd masnach deg i lawer o gynhyrchwyr ledled y byd, yn enwedig menywod.
Gwneir cais i’r sefydliad masnach deg, sy’n penderfynu a ddylid rhoi’r adnewyddiad a darparu adborth. Dyma ddetholiad o’u sylwadau cadarnhaol eleni:
“Mae eich grwp wedi dangos ymroddiad i fwrw ymlaen â’ch ymgyrch ac i sicrhau bod masnach deg yn dod yn rhan o fywyd bob dydd yng Nghastell Newydd Emlyn.
Mae eich cais adnewyddu yn drylwyr iawn ac rydym am gydnabod yr amser a dreulir arno a’r manylion a rannwyd gyda ni.
Yn gyffredinol mae eich cyflawniadau yn drawiadol o’r nifer o ddigwyddiadau yr ydych wedi eu trefnu a phobl wedi eu cyrraedd i’r ystod eang o gydberthnasau a wnaethoch yn y gymuned a gyda ffermwyr siwgr ym Malawi. Da iawn!
“Rydych hefyd wedi meithrin perthynas gref iawn gyda’r Cyngor yn lleol ac yn sirol ac rydym yn falch o glywed eu bod yn cefnogi eich grwp gyda chynrychiolwyr a chyfraniad y maer. Mae hefyd yn addawol iawn i weld eich bod wedi ymgysylltu â’ch AC.“
Mae’r hyn a gyflawnodd yr ymgyrchu, y gweithgareddau a’r digwyddiadau yng Nghastell Newydd Emlyn hefyd yn helpu i gefnogi statws sirol masnach deg Sir Gaerfyrddin.
Y newyddion gwych yw bod Sir Gaerfyrddin, ar 19eg Mai, wedi adnewyddu ei Sir masnach deg yn llwyddiannus diolch i gefnogaeth grwpiau lleol fel ein cyngor ni.
‘Gwnaed argraff arbennig arnom gan y rhestr o’ch digwyddiadau a oedd yn defnyddio eich rhwydweithiau ar draws y sir‘.
O dan amgylchiadau arferol byddai adnewyddu statws tref masnach deg yn esgus gwych i ddathlu ac yn gyfle i gadw agenda masnach deg yn fyw. Eleni, oherwydd argyfwng Covid – 19 wrth gwrs, ni ellir trefnu digwyddiad o’r fath.
Fodd bynnag, gwnaeth y grwp nodi’r achlysur, drwy’r cyfryngau cymdeithasol, drwy godi gwydraid o win masnach deg i lwyddiant y dref!