Daw eto haul ar fryn . . . neges nofel gyntaf Heiddwen Tomos i’r arddegau
AR ôl derbyn clod am ei nofelau i oedolion, mae’r awdures boblogaidd o ardal Llanbedr Pont Steffan yn troi ei llaw at nofel i’r arddegau ac yn cyhoeddi ei nofel gyntaf. Mae Heb Law Mam (Y Lolfa) yn llawn hiwmor, problemau teuluol a charwriaethol, a chyfeillgarwch ffug.
“Rwy’n athrawes uwchradd ers sawl blwyddyn, a hynny yw’r ysbrydoliaeth mwyaf ar gyfer ysgrifennu’r nofel hon. Mae ffrindiau, teulu, gofidiau wrth dyfu, iechyd a chariad cyntaf i gyd yn themâu amlwg ynddi.
Neges y stori yw bod cyfnodau ym mywydau pawb gallu bod yn anodd, ond daw eto haul ar fryn,” meddai Heiddwen Tomos.
Stori am Efa, sy’n cael amser caled gan Gwen a rhai o’i ‘ffrindiau’ yw hi.
Mae mam Efa yn yr ysbyty yn disgwyl babi, a hefyd yn aros am driniaeth gancr. Does neb yn fodlon gwrando ar Efa, na’i deall ei phroblemau’n iawn, heblaw ei mam.
Mae’r diniweidrwydd a’r agosatrwydd rhwng mam a merch yn cael ei herio gan salwch difrifol y fam.
Disgrifiwyd y nofel yn “gonest, diniwed a thorcalonnus” gan yr awdures. Meddai Heiddwen: “Fe wnes i fwynhau ysgrifennu’r nofel hon mas draw.
“Fel mam i dri o blant, penderfynais ysgrifennu nofel iddyn nhw i’w darllen.
“O ran ysgrifennu mwy i’r arddegau, mae hynny’n sicr, mae cael bod yn bryfyn ar wal yn yr ystafell ddosbarth yn gyfoeth o straeon difyr dros ben!”
Mae’r nofel yn debyg i’r gyfres boblogaidd, fyd-eang Dork Diaries, ac mae lluniau du a gwyn, fel dwdls, negeseuon testun a nodiadau byr, yn britho’r tudalennau.
Mae Heiddwen Tomos wedi dod yn adnabyddus fel awdures sydd yn delio â themâu cyfoes a thraddodiadol ar yr un pryd.
Mae’r syniadau o berthyn a threftadaeth, mewnfudwyr a chariad i gyd yn cael eu trafod, ac mae’r storïau’n llawn deialog bywiog a naturiol sy’n llawn hiwmor. Roedd ei nofel Esgyrn (Y Lolfa, 2018) ar restr fer Llyfr y Flwyddyn, categori Ffuglen yn 2019.
Cyhoeddwyd ei chasgliad o straeon byrion cyntaf, O’r Cysgodion, a ddaeth yn agos i’r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2019, ym Mawrth 2020.
Mae Heb Law Mam gan Heiddwen Tomos ar gael nawr (£5.99, Y Lolfa).Addas ar gyfer: 11-14 oed