Gwefan ‘Stori Fawr Dre-fach Felindre’
O agor eich cyfrifiadur a chlicio ar Google.com ac yna teipio’r geiriau Stori Fawr Dre-fach Felindre a chlicio eto, fe ddowch i wefan ddiddorol iawn sy’n llawn o luniau, gwybodaeth ac erthyglau a hanesion am ardal Dre-fach Felindre.
Mae’r grwp neu’r tîm sy’n gosod ar gof a chadw yr holl wybodaeth am y pentref yn dal i ychwanegu at y cynnwys yn gyson.
Yn ystod 2019 a Dre-fach Felindre yn Bentref Diwylliant Sir Gaerfyrddin, fe drefnwyd gwahanol deithiau cerdded yn yr ardal ac fe ges i yr anrhydedd o arwain rhai o’r teithiau rheiny. Y bwriad oedd darlunio ac ail fyw bywyd yr ardal yn ystod cyfnod yr ail ran o’r ganrif ddiwethaf.
Cafwyd cryn hwyl ar y teithiau a bellach rwyf wedi gosod y cynnwys ar wefan ‘Stori Fawr Dre-fach Felindre’ o dan y pennawd Dewch am Dro.
Mae pump taith hyd yn hyn ar y wefan, sy’n cynnwys pob math o wybodaeth am pwy oedd yn byw yn y pentref, pwysigrwydd rhai adeiladau ynghyd â nifer o storïau am sawl cymeriad diddorol a llawer iawn mwy.
Mae’r daith Fy Stori i yn Nre-fach Felindre yn mynd a ni trwy’r pentref dros hanner can mlynedd yn ôl ac yn nodi bod yno chwe siop yn gwerthu bwydydd a nwyddau eraill, dau grydd, pobyddion a chaffi, sinema bob nos Wener, siop sglodion, ironmonger, siop sgidiau, dau dafarn a phedwar cigydd – i nodi ond rhai o’r gwasanaethau.
Ymhlith y teithiau eraill sydd bellach ar y wefan mae Am Dro i Gwmpengraig, Draw i Drefelin, I Alltpenrhiw am Dro, a Lan i Benboyr.
Gwir bwrpas hyn o sylwadau yw ceisio eich annog chi y darllenwyr i ffurfio grwp o bobl yn eich hardal chi i greu gwefan ‘Stori Fawr....’ tebyg i’r un sydd gan Dre-fach Felindre.
Mae nifer o bentrefi ac ardaloedd wedi gwneud gwaith gwych trwy gofnodi hanes eu bröydd mewn llyfr, a phob clod iddyn nhw am wneud hynny. Ond, anfantais cyhoeddi llyfr yw eich bod yn cael eich cyfyngu o ran cynnwys a darluniau. Trwy osod y cyfan mewn trefn o dan y gwahanol deitlau ar y wefan gallwch gynnwys cymaint a mynnoch o ddeunydd a gall pawb trwy’r byd weld a darllen y cynnwys unrhyw amser o’r dydd.
Mae dros 800 o luniau ar wefan Stori Fawr Dre-fach Felindre, ac mae nhw ar gof a chadw am byth ynghyd â’r holl wybodaeth arall. Mae’r casgliad yn un gwerthfawr iawn ac yn un y gellir ychwanegu ato o hyd ac o hyd.
Ewch i mewn i Wefan Stori Fawr Dre-fach Felindre i weld y cynnwys ac yna ystyriwch y posibilrwydd o wneud yr un peth i gofnodi hanes eich pentref neu eich ardal chi.
Byddai hynny’n gymwynas fawr gan bod hi mor bwysig bod y cyfan ar gof a chadw. Cysylltwch os am unrhyw help.