Carmarthen Journal

Gofid, Gobaith a Chofid-19

- gan Rhian Dafydd

RWY’N ysgrifennu hwn yn ystod y 12fed wythnos o’r clo mawr. Mae’n anodd credu sut mae’n bywydau wedi newid yn ystod y cyfnod hyn.

Er mor ofidus ac ansicr yw byw yng nghysgod Cofid-19, rhaid cyfadde’ bod nifer o bethau da wedi dod yn sgîl y Pandemig. Roedd bywyd cyn y clo mawr yn wallgo’; y prysurdeb o redeg a rasio i bob man - jyglo amserlen ar ôl ysgol y plant heb sôn am fy amserlen bersonol i.

Yn ddios roedd yr wythnos yn llawnach nag arfer oherwydd dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaeth­ol i Geredigion eleni a’r bwrlwm mawr o weithgared­dau ac ymarferion corau ac ati oedd yn digwydd ar draws y sir gyfan. Ond daeth y cyfan i ben dros nos, ac am sawl wythnos bu tawelwch. Dwi wedi gwerthfawr­ogi’r amser i arafu a chael cyfle i dreulio amser gyda’r teulu.

Roedd yna deimlad o’r blaen ein bod i gyd yn byw yn yr un ty, ond prin yn gweld ein gilydd.

Pan oedd un yn dod adre, roedd y llall ar fin mynd allan i gyfarfod neu ymarfer rhywbeth neu gilydd, neu i fod yn dacsi i un o’r plant.

Mae’r Cofid-19 wedi ein gorfodi i feddwl ac i ystyried ein hiechyd a’n lles personol. Ystyried pa mor bwysig yw bod yn garedig i’n hunain. Ochr arall y geiniog yw addysgu adref a’r heriau o geisio parhau i weithio o adref tra’n sicrhau bod y tri plentyn yn cwblhau eu gwaith hwy a cheisio cadw’r heddwch! Mae ffeindio 5 munud fach i gael paned poeth ac ychydig bach o le i’r enaid gael llonydd yn frwydr ddyddiol.

Rydym wedi gweld cymunedau ar draws y sir a thu hwnt yn tynnu at ei gilydd ac wedi profi gwytnwch trigolion ein hardaloedd. Mae gweld y tudalennau gwybodaeth a chymorth sydd wedi eu sefydlu gan wirfoddolw­yr a’r Clybiau Ffermwyr Ifanc i gynorthwyo’r bregus a’r rhai sy’n gorfod cysgodi yn ein mysg gyda siopa a chasglu presgripsi­ynau yn codi calon a balchder. Mawr hyderaf hefyd y bydd pobl yn parhau i gefnogi’r busnesau lleol (pan fyddwn yn croesawu’r normal newydd) sydd wedi ymateb i heriau’r feirws ac arloesi a nifer wedi llwyddo i barhau i fasnachu er bod drws y siop ar gau.

Yn ogystal â hyn rydym wedi cofleidio’r syniad o weld yr enfys fel symbol o obaith ac mae gweld yr arddangosf­eydd amrywiol o enfysiau yn ffenestri tai a busnesau ein hardaloedd yn werth eu cofnodi. Mae’r enfys ar wal allanol Theatr Felinfach yn symbol parhaol o obaith y cawn rywbryd yn y dyfodol ail agor ein drysau.

Yn y cyfamser fe wnawn barhau i feddwl am ffyrdd amgen i gyrraedd ein cynulleidf­a driw a ffyddlon gan wybod y daw eto haul ar fryn.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom