Carmarthen Journal

Actorion yn recordio cân o sioe gerdd i gefnogi Tarian Cymru

-

MAE aelodau cast gwreiddiol y sioe gerdd eiconig ‘Deffro’r Gwanwyn’ wedi ail-greu’r gân hudolus ‘Hâf ein Hiraeth’ er mwyn codi arian i Tarian Cymru.

Bron i ddeng mlynedd ers i addasiad Cymraeg y sioe Broadway ‘Spring Awakening’ ddechrau ar daith gyda Theatr Genedlaeth­ol Cymru, penderfyno­dd 16 o sêr y sioe ddod at ei gilydd ar-lein i recordio’r gân oedd yn cloi y sioe Gymraeg.

“Roedd y cast yn unfryd ei bod hi’n hen bryd cael aduniad,” dywed Meilir Sion Williams, un o’r cast, oedd hefyd wedi cydlynu’r recordio, “a pha ffordd well na gwneud hynny trwy gân!”

“Ar ôl siarad efo aelod o dîm Tarian Cymru a chlywed am y diffyg offer gwarchodol i staff iechyd a gofal sy’n dal i fod ar draws Cymru, es i ati i feddwl am ffordd o gasglu prês i’r elusen.

“A hithau bron yn ddeng mlynedd ers cynhyrchia­d Theatr Genedlaeth­ol Cymru o sioe gerdd ‘Deffro’r Gwanwyn’, mi gysylltais efo’r cast i gynnig y syniad, ac o fewn ychydig oriau, roedd pawb yn gytûn ac awyddus i ganu cân olaf y sioe ‘Haf Ein Hiraeth’ er budd Tarian Cymru.

Yn sgîl gofynion hunan ynysu Covid-19, bu’n rhaid dibynnu’n llwyr ar y we i’r actorion, sydd yn cynnwys enwau adnabyddus fel Lynwen Haf Roberts, Nia Ann, Berwyn Pearce, Daniel Lloyd, Sion Ifan, Ceri Lloyd, Ffion Dafis, ac Elain Lloyd recordio’r gân.

“Dwi’n ffodus mod i’n byw efo brawd a chwaer sy’n gerddorion a chynhyrchw­yr cerddoriae­th, sef Branwen ac Osian Williams,” meddai Meilir, “Fe gynhyrchwy­d y trac sain o fewn wythnos, cyn i Meredudd Jones gynnig ei ddoniau golygu i greu’r fideo gorffenedi­g.

“Rydym i gyd fel criw yn falch o’r ymateb i’r fideo ac yn gobeithio y bydd hi’n gymorth i godi ymwybyddia­eth ac i gasglu arian i elusen Tarian Cymru.”

Mae fideo’r perfformia­d ar dudalen Facebook Tarian Cymru, ac mae ar gael ar YouTube.

Mae’r cast yn annog i bawb gyfrannu’n hael drwy fynd i wefan tarian. cymru

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom