Carmarthen Journal

Adam yn yr ardd

-

SHWMAE bawb, Adam ydw i, ac rwy wrth fy modd yn tyfu planhigion o bob math, yn llysiau, blodau a ffrwythau. Rwy’n rhedeg cyfrif Instagram ‘@adamynyrar­dd’ yn rhannu cyngor garddio a fy mhrofiadau wrth geisio byw bywyd hunan gynhaliol.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae gymaint yn fwy o bobl wedi ymddiddori yn yr ardd a dechrau tyfu bwyd eu hunain gartref, rwy’n meddwl bod hwn yn rhywbeth calonogol dros ben. Mae gymaint o fanteision i’w cael wrth hala tamaid bach o amser yn ein gerddi.

Hyd yn hyn, mae wedi bod yn dymor da iawn i arddio, gyda mis Mai yn torri pob record tywydd am ba mor heulog oedd hi, ond mae wedi bod yn sych gorn!

Rwy’ wedi hala mwy o amser yn dyfrio planhigion ym mis Mai, nag y gwnes i yn ystod yr haf i gyd llynedd! A dyna beth hoffwn i rannu â chi heddiw, cyngor syml ar sut i ddyfrio’ch planhigion yn ystod cyfnodau o dywydd sych.

Pryd yw’r amser gorau i ddyfrio?

Mae hwn yn gwestiwn rwy’n ei gael yn aml, ac yn bersonol, byddwn i’n dweud gyda’r bore cyn 10 o’r gloch.

Yn sicr dylwn ni ddim dyfrio’n planhigion yn ystod haul crasboeth ganol dydd.

Gall dyfrio, pan fydd yr haul ar ei gryfaf losgi dail y planhigion a golygu ein bod angen treulio mwy o amser yn dyfrio gan bod y dwr yn anweddu’n gynt.

Mae dyfrio gyda’r hwyr ar ôl tua 6 o’r gloch y nos, hefyd yn iawn ond yn bersonol, rwy’n gweld bod gwneud hynny yn creu amgylchedd gwych i falwod ddod mas i fwyta’n planhigion, gan eu bod yn greaduriai­d y nos ac yn dibynnu ar leithder i symud yn esmwyth o un man yr ardd i’r llall.

Mae rhai garddwyr hefyd yn credu’n gryf, bod dyfrio gyda’r nos yn gallu creu mwy o broblemau o ran heintiau ar ddail y planhigion, gan fod heintiau hefyd yn dibynnu ar amgylchedd llaith a thamp.

Un o’r problemau mwyaf cyffredin sydd yn ein hwynebu ni yn yr ardd, yw gor-ddyfrio, credwch neu beidio!

Er mwyn osgoi hyn, mae angen inni gadw golwg ar edrychiad ein

planhigion, maen nhw’n ceisio siarad â ni, ond mewn ffordd wahanol. Yn aml, os fydd planhigyn wedi’i or-ddyfrio, bydd ei ddail yn troi’n felyn a bydd y gwreiddiau’n dechrau pydru.

Ond sut ydw i’n osgoi hyn?

Un tip da i osgoi gor-ddyfrio yw gwthio blaen eich bys i mewn i’r ddaear neu bot lle mae’r planhigion yn tyfu cyn dyfrio.

Os fydd y pridd yn glynu wrth eich bys ar ôl ei dynnu o’r pridd, nid oes angen dyfrio ond os fydd eich bys yn lân heb unrhyw ddarn o bridd yn glynu wrtho, mae angen dyfrio’r planhigyn.

Diolch i’r drefn, mae’r glaw wedi ein cyrraedd yr wythnos hon, ac mae’r amser sydd ei angen arnom i ddyfrio, wedi lleihau.

Mae’n addo haf gweddol sefydlog, felly rwy’n siwr y byddaf yn rhannu cwmni fy hen ffrind – y can dwr, whap!

Os hoffech chi fwy o gyngor garddio a chlywed mwy am fy mywyd yn yr ardd, dilynwch @adamynyrar­dd ar Instagram, Twitter neu Facebook.

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom