Y rhithwir a’r gwir
MAE’N siwr fod nifer fawr ohonoch chi wedi bod yn yr un cwch â fi dros y misoedd diwethaf yma
– yn byw mewn rhyw swigen anghyfarwydd sy’n llawn profiadau rhithwir a ffyrdd gwahanol o wneud pethau. Mae geiriau fel Zoom a Teams wedi dod yn rhan o’n geirfa, a phopeth o gyfarfod ffrindiau, cyfarfodydd busnes, ymarfer corff, gwasanaethau a chyflwyniadau crefyddol, cystadlu, coginio a chanu’n digwydd yn hollol naturiol ar flaenau ein bysedd ac ar y sgrin o’n blaenau. Does dim amheuaeth fod y we a’r cyfrifiadur wedi bod yn fodd i fyw i lawer ohonom yn ddiweddar.
Un o’r mudiadau sydd wedi bod yn flaengar a chreadigol iawn yn y modd y maen nhw’n dygymod â’r clo mawr yw Mudiad y Ffermwyr Ifanc. Ers y cychwyn cyntaf nôl ym mis Mawrth, mae clybiau ym mhob rhan o Gymru wedi bod yn flaengar iawn o fewn eu cymunedau yn cynnig cefnogaeth i’r bregus a’r rhai mewn angen. Mae eu gweithgareddau ar-lein hefyd wedi bod yn ddifyr a dweud y lleiaf. Pwy, er enghraifft, sydd heb weld ‘Sialens y welis’ neu ‘Sialens y carton llaeth’? A dyna i chi glybiau ffermwyr ifanc Sir Gâr wedyn, sydd wedi bod yn cyflwyno clipiau dyddiol ‘Diwrnod ym mywyd …’ un o’r 700 o aelodau o fewn y sir ers misoedd lawer – a bellach mae dros bedwar ugain o aelodau a chyn-aelodau wedi ein croesawu i gael cipolwg ar eu hynt a’u helyntion yn ystod diwrnod cyffredin yn eu bywydau. Ry’n ni wedi bod mewn sawl parlwr godro, wedi bod yn crwydro’r caeau mewn sawl ardal wahanol ac wedi ymweld â mannau gwaith a swyddfeydd amrywiol gan danlinellu mor gyfoethog yw profiadau aelodau’r mudiad o fewn y sir. Dyma fodd effeithiol dros ben o gynnal y gymdeithas wledig ar adeg heriol i bawb.
A chan nad oes siawns am Rali na Sioe Frenhinol go iawn eleni, mae nifer o gystadleuthau ar-lein wedi eu trefnu, yn cynnwys Sioe Frenhinol Rhithwir CFFI Cymru sydd ar y gweill ar hyn o bryd, a chyfle i aelodau gynrychioli eu sir unwaith eto yn y Sioe Fawr, yn bennaf ym meysydd barnu stoc, ffitrwydd, coginio, ailgylchu, crefft, canu a’r creadigol. Mae hyd yn oed cystadleuaeth ‘Lyp Sync Tik Tok’ i unrhyw un sy’n dymuno dilyn y trywydd hwnnw! Does dim gwahaniaethu na rhagfarn – mae’r cystadleuthau’n agored i bawb.
Fe fyddai’r wythnos hon wedi bod yn brysur i’n Clwb Ffermwyr Ifanc lleol ni, Capel Iwan, gan mai nos Sadwrn fyddai noson y ddawns flynyddol, ar y cyd â Chlwb Rygbi Castellnewydd Emlyn – un o uchafbwyntiau calendr cymdeithasol yr ardal. Bryn Fôn oedd i fod yno’n diddanu eleni, felly mae’n siwr y bydd yn rhaid i ni i gyd fod yn ‘Rebel Wicend’ a gwneud y tro â chwarae ei gerddoriaeth yn uchel iawn gartre yn lle hynny!
Efallai mai’r peth pwysicaf i’w gofio drwy hyn oll yw fod modd i ni i gyd fwrw ymlaen â’n bywydau o ddydd i ddydd o hyd, a bod modd cynnal cymdeithas a chymdeithasu mewn ffyrdd gwahanol, newydd. Bydd angen bod yn greadigol a rhithiol, o bosib, ond fe ddown ni drwyddi eto – a phwy a wyr, efallai er gwell!