Carmarthen Journal

Gweld yn glir

-

O’DD hi’n ddiwrnod mwll. Pe bai’r cymyle wedi crynhoi’n unswydd i gydymdeiml­o. Y dydd – mond po ddiwrnod – y godo ni ei bwyse am y tro ola. Fi, Kevin, Rich a David Ty Newydd – yr wyron. Ei gario o’r ty. Dechre’i siwrne ola.

Ond wedyn, wedi cyrra’dd y fynwent, wrth i ni ei rolio o gefen yr hers a chymryd ei bwyse am y tro ola ola, dyma nhw’n mynd – y cymyle. Fel ma nhw’n neud, ambell waith. Reit ar yr eiliad honno. Yn clirio. Anghofia’i fyth. Pe bai’r peth wedi’i drefnu mla’n llaw. Fel sgript ffilm. Mudo’n glir i’r haul gael rhoi un gusan fach ola iddo.

A na pryd teimles i rwbeth – fel switsh – yn, wel, neud beth ma switsh yn neud: yn agor sianel. Yn gadael i rwbeth lifo. Yn glir. A’r rhwbeth na o’dd cerbyd. Cerbyd y cof. Yn y’n hedfan i (dim-whare) nôl i’r tro dwetha.

Y tro dwetha wedodd e wrthoi’r holl hanes am y tro dwetha. Hanes y tro dwetha iddo farw.

O, fe wna’th e atgyfodi gydag amser, wrth gwrs. Ma hwnna’n rhan o bob marw.

Ond dyw bywyd byth ’run peth wedyn cofia bydde fe’n gweud. Fel bydde fe’n gweud bob tro. Siwrne ma nhw wedi dy ladd unwaith, fydd bywyd fyth ’run peth to. Sdim wanieth faint ti’n trial. Ta faint o ymdrech ti’n neud. A fe wna’th e drial. Sawl gwaith a thro.

Ond dim ers sawl blwyddyn nawr. Na. Dim, wi’n credu, ers y dwrnod y wedodd e’r hanes wrtho’i gynta. O! wi’n cofio’r dwrnod hwnnw’n glir. A’r hyn sy’n sefyll yn glir – yn gwbl glir – yw pa mor glir o’dd e’n cofio. Er ma’ crwt o’dd e ar y pryd. Crwt bach bach.

A’r tro dwetha, hefyd – y tro dwetha iddo weud yr hanes – yr un hanes – am yr un dwrnod. Er mor hen o’dd e nawr o’dd y cyfan dal mor glir iddo. Mor, mor glir. O’r ti’n gallu gweld ’ny. Yn glir.

Y dod mas o’r ty. Am y tro ola. Wrth sawdl Data. Yn anadlu cyn lleied fyth a phosib wrth i’w dad roi’r allwe yn y clo. Y tro ola. Ei chwmpo i’w boced. Troi tua’r fan. Y Morris bach. A’i roi i iste ar y sêt bocs Corona tu ôl i’w fam.

Ei weld e’n mestyn am y switsh. Ond yn stopo’n sydyn.

Codi o’r fan. Croesi nôl at y drws. Tynnu’r allwe o’i boced. Ei rhoi hi nôl yn y drws. A’i gadel hi yno.

Dyna beth welodd e. Beth o’dd e’n gweld yn glir. Bob tro. Hyd y tro ola. Hyd y diwedd.

Yr allwe yn y drws. Wrth iddyn nhw madel. Wrth i rym anorchfygo­l Y Greater British Good eu hel oddi ar yr Epynt. Am y tro ola.

Eu clirio o na. Unwaith ac am byth.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom