Llymaid nawr ac yn y man o ddiod cartref!
SHWMAE bawb, gobeithio eich bod wedi cael cyfle i fwynhau yn yr ardd yn ystod yr wythnos ddiwethaf ‘ma, ac wedi cael cyfle i roi cynnig ar greu jam cartref gyda ffrwythau meddal o’r ardd.
Fel soniais yr wythnos ddiwethaf, un o’m hoff ryseitiau i wneud gyda chnwd da o ffrwythau o’r ardd yw gwin cartref neu ychwanegu blas ffrwythau i Jin neu vodka. Nid oes unrhyw beth gwell ‘ da fi ar ôl diwrnod caled yn gweithio yn yr ardd na joch o ddiod cartref. Dyma rannu ambell i rysáit syml i’ch helpu chi i fynd ati i greu’ch diodydd eich hun gartref. JIN GWSBERIS
■ 200g Gwsberis ■ 2 lwy fwrdd o siwgr 1 litr o Jin o’ch dewis Golchwch y gwsberis yn dda. Rhowch y gwsberis mewn jwg neu jar, ychwanegwch y siwgr a’r jin a’i gymysgu’n dda.
Gorchuddiwch â chaead a gadewch iddo eistedd am o leiaf 3 wythnos, gan ei droi/ysgwyd yn achlysurol (nid yw hyn yn angenrheidiol, bydda i’n aml yn anghofio amdanynt!)
Arllwyswch eich jin i mewn i boteli sydd wedi’u sterileiddio. Mae’ch jin yn awr yn barod i’w fwynhau, ym mha bynnag ffordd ddymunwch. Bydd y jin yn cadw hyd nes i chi ei yfed i gyd!
Gallwch addasu’r rysáit hwn gyda ffrwythau a gwi■ 500g cyrens duon
■ 1kg siwgr
■ 1.5litr o ddwr
■ 2 lemwn gyfan
■ 50g o asid sitrig Tynnwch goesyn y cyrens duon a golchwch y ffrwythau’n dda.
Rhowch y cyrens duon, siwgr, dwr ac asid sitrig i mewn i sosban a chynheswch yn araf er mwyn hydoddi’r siwgr.
Mudferwch y surop am 10 munud nes fod y siwgr i gyd wedi’i hydoddi ac yna ychwanegwch ddau lemwn.
Gadwch i’r cordial oeri am o leiaf 30 munud ac yna arllwyswch yr hylif trwy rhidyll mân neu lliain mwslin i mewn i boteli gwydr sydd wedi’u sterileiddio.
Cadwch yn yr oergell neu mewn cwpwrdd tywyll ac oer, ac mi ddylai gadw am hyd at flwyddyn.
I’w yfed, arllwyswch ychydig i mewn i wydr ac ychwanegwch ddwr, fel y byddwch yn gwneud gyda sgwash. Gallwch addasu’r rysáit hwn gyda ffrwythau o’ch dewis e.e. Cordial mefus a lemwn neu Gordial afal a leim.
Gobeithio y cewch chi gyfle i roi cynnig ar un o’r ryseitiau uchod a chofiwch i rannu’ch lluniau â mi trwy ddilyn @adamynyrardd ar Facebook, Instagram neu Youtube.