Cyhoeddi cofiant Cymraeg ar lwyfan audible am y tro cyntaf
MAE gwasg Y Lolfa newydd ryddhau fersiwn lafar o hunangofiant Huw Jones Dwi isio bod yn... ar blatfform Audible. Bydd hyn yn golygu bod modd i bobl wrando ar Huw Jones yn darllen hanes ei fywyd ar eu ffonau clyfar. Ers y ffrwydriad ym mhoblogrwydd ffonau clyfar mae app Audible wedi bod yn lwyfan poblogaidd a hwylus i bobl sydd am wrando ar lyfrau Saesneg yn cael eu darllen ond mae gwrandawyr Cymraeg wedi gorfod bodloni ar wrando ar CDS.
Dywedodd1 Garmon Gruffudd ar ran Y Lolfa: “Wrth wrando ar ei hunangofiant daw’n amlwg i Huw Jones fod yn dipyn o arloeswr mewn sawl maes ar hyd ei fywyd. Mae’n braf i’r Lolfa gael cyfle i arloesi wrth gyhoeddi ei hunangofiant ef.
“Yn sicr mae gwrando ar Huw Jones yn darllen hanes ei fywyd yn rhoi dimensiwn a phleser ychwanegol i’r sawl sydd am wrando ar y llyfr yn hytrach na’i ddarllen.”
Yn addas iawn stiwdio Sain sy’n gyfrifol am y recordiad ac mae’r llyfr sy’n rhyw ddeg awr o hyd yn frith o straeon difyr am y profiad o sefydlu’r label a’r stiwdio a hanes datblygiad rhyfeddol cwmni recordio enwocaf Cymru heb sôn am ei waith yn y byd teledu. Bydd y llyfr llafar hefyd ar werth ar itunes, gwefan Y Lolfa ac fel CD MP3 yn y siopau llyfrau Cymraeg.
Ychwanegodd Garmon Gruffudd: “Rydym yn gobeithio rhyddhau rhagor o lyfrau llafar dros y misoedd i ddod a bydd hyn yn gam bychan, gobeithio, tuag at lanw bwlch enfawr yn y byd cyhoeddi Cymraeg.”
Mae Dwi isio bod yn... gan Huw Jones ar gael nawr (Llyfr £12.99; Llyfr llafar MP3 £9.99; E-lyfr £9.99 a CD Sain £12.99)