Clwb Ffermwyr Ieuainc Llangadog
CYNHALIWYD y clwb helfa drysor rhithiol ar nôs wener 9fed o Hydref a drefnwyd gan cyn aelod y clwb a chyn Cadeirydd y Sir sef Mared Williams. Bu deg tim yn cystadlu gyda dau tim yn gydradd cynta sef Catrin a Llinos Davies, Talsarn a Bethan a Sara Morgan, Crossville a Ffion Jones.
Llongyfarchiadau i gyn cadeirydd y clwb sef Sian Williams, Pwllcalch ar gael ei ail ethol yn Is Gadeirydd y pwyllgor cyllid i Ffederasiwn Sir Gar.
Ar nôs Fercher 14eg o Hydref bu 6 o swyddogion y clwb yn mynychu cyfarfod rhithiol a drefnwyd gan Ffederasiwn y Sir i drafod a dysgu sut i gynnal cyfarfodydd yn ddiogel gan gynnwys assessu risc a gofal er mwyn diogelu aelodau y clwb.
Llongyfarchiadau i Aaron Hughes, Godre Garreg ar ennill 1af yn yr adran hyn o feirniadu carcas oen yn ogystal a dod yn 3ydd yn beirniadu bîff – y ddau gystadleuaeth yn rhithiol. Trefnwyd y gystadlaeth gan Federasiwn Sir Gar gyda’r enillwyr o bob cystadlauaeth yn cynrychiolu’r Sir ar lefel Cymru. Pob lwc Aaron.
Ar nôs wener 6ed o Dachwedd cynhaliwyd cwis rhithiol gyda 15 o deuluoedd yn cystadlu. Trefnwyr y cwis oedd aelodau hyn y clwb sef Liz Davies, Gwynfe, Sian Williams, Myddfai, Ruth Morgan, Talyllychau a Carys Jones, Bethlehem. Llongyfarchiadau mawr i bawb a wnaeth cystadlu yn enwedig yr ennillwyr sef –
1af – Aaron Hughes, Llangadog.
Cydradd 2ail - Lois Williams, Llangadog a Mari a Cadi James, Llanddeusant.
3ydd – Jack Manordeilo.
Ar nôs wener 13eg o Dachwedd cynhaliwyd cyfarfod i drafod gweithgareddau y clwb am y misoedd nesaf yn ogystal a digwyddiadau i godi arian tuag at coffer y
Davies, clwb.
Mae Llywydd y clwb Wendy Morgan, Nantgwynne wedi cytuno i rhoi hamper fwyd nadolig i’r rafl a fydd yn cael ei dynnu ar 20fed o Rhagfyr. Mae tocynnau ar werth yn swyddfa bost Llangadog am £1.00 y strip.
Hefyd ar yr 20fed o Rhagfyr penderfynnodd y clwb i gynnal rhediad tractor a fydd yn cychwyn am 1.30 y.p o Glwb Rygbi Llangadog.
Pris cofrestru gyrru y tractor yw £5.00. Gofynnir i bob yrrwr i addurno eu dractor gyda thinsel a goleuadau dolig. Croeso cynnes i ffermwyr y gymuned leol i fod yn rhan o’r digwyddiad.
Bydd arian a godwyd o’r raffl a rhediad y tractor yn mynd tuag at goffa’r clwb.
Am fwy o fanylion plis cysylltiwch a’r Cadeirydd Ifan Williams ar 07805 582491 neu yr Ysgrifennydd Aaron Hughes ar 078277 12574.
Gwelir Cadeirydd y Clwb sef Ifan Williams (Chwith), Jack Davies y Trysorydd (Canol) a Aaron Hughes yr Ysgrifennydd (Dde) gyda rhai o’r tractorau fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad ar yr 20fed o Ragfyr.
Ysgrifennwyd gan Mari a Cadi James, Ysgrifennyddion y Wasg CFFI Llangadog.