Carway
Bethel Carwe Oherwydd y sefyllfa Covid-19 feirws bydd ddim cwrdd ym Methel tan y Flwyddyn Newydd. Felly, bydd y Diaconiaid ar gael os fydd angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch; a fyddwch cystal â chysylltu gyda ni. Byddwn yn eich hysbysu pan fyddwn yn dechrau yn nol - cadwch yn gynnes. Cydymdeimlo Mae ein cydymdeimlad yn mynd i Lois Williams, Brongwendraeth sydd wedi colli ei gwr Mr Nantlais Williams yn ddiweddar. Boed i’r teulu oll dderbyn ein cydymdeimlad dwys yn eich profedigaeth. I’r teulu’r Mrs Meinir Williams a’r plant wrth golli ei gwr Mr Meirion Williams, Pontyberem (gynt o Bronwydd, Carwe). A hefyd i’r sawl un o’n haelodau sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y flwyddyn. Boed i chwi oll dderbyn ein cydymdeimlad dwys yn eich galar.
Nadolig Llawen Dymuna’r swyddogion a holl aelodau’r Capel Bethel ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chwi oll.